Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Ateb y Galw: Rhys Bidder

  • Cyhoeddwyd
bidder

Yr actor Rhys Bidder sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Sion Ifan yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Un o fy atgofion cyntaf yw eistedd yng nghôl fy nhad. Ro'n i mewn un llaw, peint yn y llall, a phecyn o American Hard Gums wrth ei ochr. Sgoriodd Cymru - ath e lan, es i lawr, BANG! Parhaodd y traddodiad o beint (o shandi) ac American Hard Gums gyda fy nhad-cu wedi i 'nhad farw, ac rwy'n dal i wenu bob tro rwy'n gweld pecyn o American Hard Gums mewn archfarchnad.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Mi o'dd gen i crush ar yr actores Ellen Salisbury o'i dyddiau ar "Pam fi Duw?". Blynyddoedd wedyn nes i gwrdd â hi a digwydd sôn wrth ffrind gymaint o'n i'n ffansio hi pan o'n i'n iau. Erbyn i fi ddod nôl o'r tŷ bach oedd e wedi gweud y cwbwl wrthi. Tro cyntaf i fi fod yn speechless erioed!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi ddim yn siŵr. Dwi'n trial anghofio digwyddiadau fel yna. Falle gan ei bod nhw'n digwydd yn rhy aml.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Tra'n ffarwelio â fy mrawd bach cyn iddo fe symud i San Francisco i fyw. Gafon ni foment mawr, fel mewn ffilm ag oedd e'n ddramatig iawn. Nath e ffonio fi ar Facetime 10 munud wedyn fel petai dim byd wedi digwydd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Falle'r ffaith fy mod i'n gweld hi'n anodd cyfaddef fy mod i'n anghywir? Ond yn lwcus dydw i ddim yn anghywir yn aml...

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Unrhyw draeth ar Benrhyn GwÅ·r. Ges i fy magu yna felly yn amlwg mae'n bwysig i mi. Mae'r traethau a'r golygfeydd godidog yn le dwi'n hoffi mynd i gerdded, meddwl ac ymlacio.

Ffynhonnell y llun, Matt Cardy
Disgrifiad o’r llun,

Traethau'r Gŵyr; lle i Rhys fynd i gerdded, meddwl ac ymlacio

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noswaith yn Glastonbury ychydig o flynyddoedd yn ôl. Cwmni ffrindiau da a'r Super Furry Animals yn chwarae. Noson i'w chofio… er dwi ddim yn cofio popeth!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Brwdfrydig, Barfog, Pengaled.

Beth yw dy hoff lyfr?

Reasons to Stay Alive gan Matt Haig. Bydden i'n argymhell pawb i ddarllen y llyfr yma.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Sir David Attenborough. Dwi'n naturiaethwr angerddol a mae Sir David yn arwr i mi. Mae ei holl waith yn anhygoel a bydden i yn gallu gwrando arno fe yn siarad am fyd natur am oriau. Er dwi'm yn siŵr beth mae e'n yfed.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Dr Strange. Nes i gwympo i gysgu. Er dwi'n ffan mawr o Benedict Cumberbatch felly mae'n rhaid taw wedi blino o'n i.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Casglu pawb sy'n bwysig i mi at ei gilydd a cherdded y ci ar y traeth.

Dy hoff albwm?

Mae'n newid o hyd felly yn gwestiwn anodd. Dwi wedi bod yn gwrando llawer ar Audioslave yn y gym a hefyd NAO. Dwi wrth fy modd gyda Bon Iver tra'n ymlacio.

Disgrifiad o’r llun,

Rhys yn chwarae Dion Hopkins yn Y Gwyll

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be fyddai'r dewis?

Prif gwrs. Stêc flat iron medium, sglodion a madarch wedi'u ffrio. Perffaith.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Donald Trump falle? Gweld faint o ddifrod alla'i ddad-wneud mewn diwrnod?

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Iddon Alaw Jones.