Diwedd cymorthdaliadau Ewropeaidd yw'r 'pryder mwyaf'

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Carwyn Jones ei sylwadau yn sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud mai ei "bryder mwyaf" yw y bydd cymorthdaliadau ffermio a'r economi yn diflannu wedi i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae mannau tlotaf Cymru yn derbyn mwy na 拢2bn mewn cymorth economaidd o Frwsel rhwng 2014 a 2020, tra bod mwy na 拢250m yn cael ei roi i ffermwyr pob blwyddyn.

Dywedodd Mr Jones wrth ACau ddydd Mawrth ei bod yn bosib na fyddai unrhyw daliadau i gymryd lle arian yr UE ar 么l 2020.

Mae disgwyl i Theresa May ddechrau'r broses dwy flynedd o adael yr UE ddydd Mercher, drwy danio Erthygl 50.

'Ddim yn obeithiol'

"Dydw i ddim yn obeithiol y bydd unrhyw arian ar 么l 2020," meddai Mr Jones.

"Dydw i ddim yn bendant y bydd arian i gymryd lle Cronfeydd Strwythurol, a dydw i ddim yn bendant y bydd unrhyw arian i dalu cymorthdaliadau ffermio.

"Rydyn ni'n clywed yn fwy a mwy aml bod y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn broblem - fe glywon ni hynny gan Iain Duncan Smith - ac mae hynny'n golygu y gallai cymorthdaliadau ffermio ddiflannu.

"Dyna yw fy mhryder mwyaf. Rydyn ni'n gwybod beth y byddai hynny'n ei olygu i economi cefn gwlad Cymru."