Prifysgol y Drindod 'eisiau torri 10% o'i staff'

Mae swyddi dan fygythiad ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wrth iddyn nhw ofyn i staff ystyried diswyddiadau gwirfoddol.

Mae gan y brifysgol gampysau yng Nghaerfyrddin, Abertawe a Llambed.

Er nad oes manylion wedi'u rhyddhau am niferoedd, mae undeb Unsain yn honni bod y brifysgol yn gobeithio lleihau nifer eu staff tua 10%.

Daw ddiwrnod yn unig ar 么l i Brifysgol De Cymru gyhoeddi y bydd hyd at 139 o swyddi'n cael eu torri.

Mae gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant tua 1,500 aelod o staff ar hyn o bryd, gyda mwy na 10,000 o fyfyrwyr.

Maen nhw wedi ysgrifennu at bob aelod o staff yn gofyn a fydden nhw'n agored i ddiswyddo gwirfoddol.

'Costau uwch na'r cyfartaledd'

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: "Fel rhan o'i busnes arferol, mae'r brifysgol yn adolygu lefelau staffio yn gyson, gydag ystyriaeth o weddill y sector.

"Mae costau staffio'r brifysgol yn uwch na'r cyfartaledd ar draws y sector ac felly mae adolygiad wedi'i wneud o lefelau staffio ar draws pob uned academaidd a phroffesiynol.

"Felly, mae'r brifysgol wedi lansio cynllun diswyddiadau gwirfoddol gyda'r nod o leihau costau lefelau staffio fel cyfran o drosiant, ac mae wedi cwrdd ag undebau i'w gwneud yn ymwybodol o'r sefyllfa."

Ychwanegodd y byddai'r broses yn debygol o barhau dros yr wythnosau nesaf.

'Newidiadau mawr'

Mae gwaith wedi dechrau y llynedd ar ddatblygiad 拢300m y brifysgol ym Mae Abertawe, a'r Drindod hefyd sydd y tu 么l i gynllun Yr Egin - cartref newydd S4C yng Nghaerfyrddin.

Dywedodd Hugh McDyer o Unsain: "Rydyn ni'n gwybod bod newidiadau mawr ar y ffordd i'r brifysgol, gyda safleoedd yn debygol o uno.

"Byddwn yn gweithio gyda nhw i ddod o hyd i arbedion os oes eu hangen, ond ni ddylai hynny fod ar draul staff rheng flaen.

"Mae'n hanfodol bod safon y dysgu a'r gefnogaeth i fyfyrwyr yn cael ei ddiogelu, ac rydyn ni eisiau i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i fod yn agored ac onest am raddfa'r her y mae'n ei wynebu a gweithio'n adeiladol gydag Unsain i leihau unrhyw effaith ar staff."

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r sefyllfa, a dywedodd llefarydd bod gweinidogion yn disgwyl ymgynghoriad cyn unrhyw benderfyniad.