Wylfa Newydd: Cyflwyno cais am drwydded safle

Ffynhonnell y llun, Horizon

Mae'r cynllun i adeiladu gorsaf b诺er niwclear ar Ynys M么n wedi cymryd cam ymlaen, gyda chais swyddogol wedi'i gyflwyno am drwydded i'r safle.

Fe wnaeth P诺er Niwclear Horizon ei ddisgrifio fel "datblygiad o bwys" yn y broses o adeiladu'r adweithydd ar gyfer Wylfa Newydd.

Bydd y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear yn treulio'r 19 mis nesaf yn asesu addasrwydd y safle, y sefydliadau a dyluniad yr adweithydd.

Dywedodd Horizon ei fod yn gobeithio cael pob caniat芒d angenrheidiol erbyn diwedd 2018.

Prosiect 拢8bn

Dywedodd y cwmni ddydd Mawrth mai ei flaenoriaeth nawr fydd "sicrhau bod y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear yn hyderus yn ein gallu i gyflawni'r prosiect hollbwysig hwn yn ddiogel".

"Mae cyhoeddiad heddiw yn ddatblygiad o bwys yn aeddfedrwydd a thwf Horizon wrth i ni baratoi i adeiladu ac i weithredu ein prif safle yn Wylfa Newydd," meddai cyfarwyddwr diogelwch a thrwyddedu Horizon, Anthony Webb.

"Mae gennym dechnoleg sy'n gweithio ac arweinwyr profiadol, ac rydyn ni'n prysur feithrin y gallu a'r drefniadaeth ehangach er mwyn helpu i sicrhau ein bod yn llwyddo."

Mae'r drwydded safle yn un o nifer o ffactorau sydd angen caniat芒d cyn y gall y prosiect 拢8bn barhau.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Horizon eisoes yn paratoi ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus olaf ar y cynllun yn yr haf, cyn cyflwyno Gorchymyn Cydsyniad Datblygu i Arolygiaeth Gynllunio Llywodraeth y DU.

Ar yr un pryd, mae'r adweithydd d诺r berwedig y mae eisiau ei ddefnyddio yn yr oraf b诺er newydd yn mynd trwy gam olaf Asesiad Dyluniad Generig, ac mae disgwyl i hynny gael ei gwblhau erbyn diwedd 2017.

Dywedodd Mike Finnerty o'r Swyddfa dros Reoli Niwclear: "Dyma'r cais cyntaf am drwydded ar gyfer gorsaf b诺er newydd ers 2011, ac rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Horizon dros y tair blynedd diwethaf, yn darparu cyngor ar y broses drwyddedu a'r anghenion cadarn sydd eu hangen gan ddaliwr trwydded safle niwclear."

Os fydd yr holl reoliadau cynllunio a diogelwch yn cael caniat芒d, gallai'r gwaith o adeiladu'r orsaf ddechrau erbyn 2020.