麻豆官网首页入口

Cynllun ffordd 拢200m Sir y Fflint yn hollti barn

  • Cyhoeddwyd
cynllun fforddFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Mae cynllun ffordd gwerth 拢200m yn Sir y Fflint wedi hollti barn pobl leol.

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ddau lwybr posib i geisio hwyluso'r traffig ar yr A494 a'r A55 yn ardal Queensferry a Glannau Dyfrdwy.

Yn 么l rhai trigolion, byddai un llwybr - y llwybr glas - yn achosi s诺n mawr ac yn effeithio ar y rhwydwaith ffyrdd yn lleol.

Yr opsiwn arall - y llwybr coch - yw adeiladu cyswllt newydd 芒'r A55 yn Llaneurgain, ond mae un ffermwr yn dweud y byddai hynny'n difetha cefn gwlad yr ardal.

Anghytuno

"Fedr cefn gwlad ddim siarad dros ei hun, a does yna ddim llawer sy'n siarad ar ei ran", meddai'r ffermwr, Robert Hodgkinson.

"Maen nhw'n dweud wrthon ni am amddiffyn cefn gwlad, felly mae'n anghywir ein bod ni'n ei golli."

Mae trigolion sy'n gwrthwynebu'r llwybr glas yn dweud y byddai'r llwybr coch yn effeithio ar lai o bobl.

Dywedodd Sue Clamp o gr诺p A494 News Forum ei bod yn annheg ystyried y llwybr glas, gan fod opsiynau tebyg wedi eu gwrthod mewn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2008.

"Mae pobl yn gofyn pam fod hyn wedi codi eto", meddai.

Bydd y gr诺p yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yn Ewlo am 19:00 ddydd Llun. Mae ymgynghoriad y llywodraeth yn parhau tan fis Mehefin.