Treialon canser i gleifion heb symptomau clir yn ne Cymru

Mae arbenigwyr canser yn gobeithio y bydd cynllun newydd, fydd yn cael ei dreialu yn ne Cymru, yn lleihau'r amser mae'n cymryd i gael diagnosis o'r clefyd.

Mae gan Gymru a rhannau eraill o'r DU rai o'r cyfraddau goresgyn canser gwaethaf yn y byd datblygedig.

Nawr mae cynllun peilot yng Nghwm Cynon a Chastell-nedd yn canolbwyntio ar gleifion mae eu meddygon teulu yn amau sydd 芒 chanser ond ddim yn dangos unrhyw arwyddion neu symptomau brys.

Daw hyn flwyddyn ar 么l i feddygon ymweld 芒 Denmarc er mwyn gweld y systemau diagnostig yno.

Aros rhy hir

Fe welodd swyddogion Bwrdd Iechyd Cwm Taf bod y gwasanaeth iechyd yn Nenmarc wedi gwella cyfraddau goresgyn canser.

Y pryder yw bod claf yng Nghymru sydd ddim gyda symptomau clir yn disgwyl am gyfnod rhy hir am ddiagnosis, am nad ydyn nhw yn "ffitio'n hawdd" i unrhyw lwybr triniaeth benodol.

Mae'n golygu bod meddygon teulu yn cyfeirio'r claf yn 么l ac ymlaen er mwyn cael nifer o brofion, a hynny yn cymryd sawl wythnos.

Disgrifiad o'r llun, Bydd y treialon yng Ngwm Cynon yn para chwe mis

Oherwydd hyn, yr ofn yw bod gormod o gleifion yn dechrau triniaeth pan mae eu canser wedi datblygu neu nad oes modd ei wella.

Bydd 40 o feddygon yng Nghwm Cynon sydd yn credu efallai bod rhywbeth o'i le yn gallu cyfeirio'r claf at ganolfan ddiagnostig yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant o fewn saith diwrnod.

Yr amcangyfrif yw y bydd rhyw chwe chlaf yr wythnos yn cael eu gweld ac yn cael profion gwahanol, a'r gobaith yw bod hyn yn digwydd ar yr un diwrnod.

Cyrraedd cleifion

Ar hyn o bryd dim ond 35% o gleifion sydd 芒 symptomau sydd yn "peri pryder" sy'n cael diagnosis yn ardal Cwm Taf.

Mae meddygon felly eisiau cyrraedd y mwyafrif o'r cleifion sydd heb symptomau mor amlwg o'r clefyd yn gynt.

Bydd clinig tebyg yn cael ei sefydlu yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot fel rhan o gynllun prawf arall gan Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.

Mae'r treialon wedi eu datblygu yn ystod y 12 mis ers i arbenigwyr o Gymru ddychwelyd o Aarhus.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cynllun yn mynd i olygu y bydd cleifion yn cael tawelwch meddwl os ydyn nhw'n pryderu bod ganddyn nhw ganser, meddai Dr Gareth Davies

Fe aeth Denmarc ati i sefydlu'r canolfannau diagnostig wedi pryderon bod y wlad ar ei h么l hi o ran cyfraddau goresgyn canser.

Yn 么l Dr Gareth Davies, Cyfarwyddwr Cyswllt Rhwydwaith Canser Cymru, bydd y cynllun yn tawelu meddwl claf ond hefyd yn cyflymu'r broses.

"Os yw'r meddyg teulu yn gweld claf a ddim yn si诺r beth sydd o'i le ond yn pryderu ac yn teimlo bod rhywbeth o'i le, bydd yn rhoi cyfle i'r meddyg teulu gyfeirio'r claf yn syth i'r clinig ac yn golygu bydd y claf yn cael ei weld yn gyflym a gobeithio yn cael diagnosis."

Diagnosis cynnar

Mae Gareth Jordan, meddyg teulu yn Aberd芒r, yn dweud y gallai'r cynllun peilot wneud gwahaniaeth mawr i fywydau'r cleifion.

"Mi fyddai gallu dweud, 'Dwi wedi gweld y g诺r yma, mae wedi colli llawer o bwysau... allai ddim ei anfon i ffwrdd i gael profion arbenigol neu pe bydden ni fyddai'r profion yn cael eu rhoi yn nhrefn tebygolrwydd'.

"Ond mae'r ffaith eu bod nhw'n cael eu gweld mewn un lle a phob un yn gweld cynnydd cyflym, y tebygrwydd ydy diagnosis cynnar os oes ganddyn nhw ganser yn fy marn i."

Os bydd cynllun peilot Cwm Cynon - fydd yn para chwe mis - yn llwyddiannus, bydd gweddill byrddau iechyd yr ardal yn cynnig yr un gwasanaeth yn y misoedd wedyn.