Ateb y Galw: Sharon Morgan

Yr actor Sharon Morgan sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei enwebu gan Iddon Jones yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

'Ware da llwy a chippings ar yr iard yn ysgol Clawddowen 'da mrawd Paul a merch o'r enw Irene. O'n i'n gwishgo rosettes y coroni, felly mae'n rhaid taw 1953 o'dd hi. Y nhad oedd prifathro'r ysgol, o'dd rhwng Llanfynydd ac Abergorlech yng ngogledd Sir Gaerfyrddin. Dim ond t欧 ac ysgol o'dd 'na, ac wrth gwrs mae wedi hen gau.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Robert Horton o'r gyfres Wagon Train. Geson ni deledu pan o'n i tua 12, a hon o'dd fy hoff rhaglen. A wedyn George Harrison o'r Beatles.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Crasho'r car mewn gorsaf betrol! O'n i newydd baso 'nhest - yn 34 oed! Gyrrais i mewn i'r pwmps!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Wrth wylio'r ffilm Moonlight, hanes dyn ifanc du sy'n hoyw yn tyfu lan yn Miami. Mae'n dangos yn glir shwd ma cymdeithas yn gorfodi hunaniaeth ffug ar unigolion, a bod hyn yn arwain at ganlyniadau trasig iddyn nhw'u hunain yn ogystal 芒'r gymdeithas sy'n creu'r gormes. Trwy gelfyddyd cyhyrog mae'r cyfarwyddwr Barry Jackson yn cyflwyno dadansoddiad brawychus sy'n herio hiliaeth a homoffobia, ac mae'r perfformiade'n syfrdanol. Ffilm emosiynol dros ben.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Aros ar ddihun tan 3 ne 4 y bore'n darllen! Gohirio gwneud pethe diflas sy' rhaid neud, fel cyfrifon, tan y funud ola. Ditto gohirio gwneud pethe anodd - fel ateb yr holiadur 'ma! Ac yn 么l fy merch Saran, siarad, sy'n golygu ein bod ni'n hala oesoedd mewn siopau, ar ymweliadau ayyb. Bedyddiwyd fi yn Siarad Morgan gan yr actor Hugh Thomas!

Disgrifiad o'r llun, Sharon yn actio yn y ffilm 'Martha Jac a Sianco'

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Caerdydd, a'i holl fwrlwm, a'i afon, a'r Cymreictod sy'n rhan mor amlwg o'r ddinas erbyn hyn. Des i 'ma i'r brifysgol yn 1967 a dwi wedi gweld y datblygiad trwy'r degawdau wrth iddi dyfu i fod yn brifddinas hyderus hardd Ewropeaidd. A phan gewn ni annibyniaeth gwnaiff hynny barhau.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

A finne yn fy 60au hwyr mae gymaint ohonyn nhw erbyn hyn! Y nosweithiau meddw gwyllt gyda ffrindiau a chariadon, nosweithiau geni fy mhlant Steffan a Saran; nosweithiau agoriadol sioeau fel sioe Bara Caws yn Steddfod Wrecsam; perfformio fy sioe un menyw yn Efrog Newydd ac ennill fy nhair gwobr BAFTA! Noswaith arbennig o gofiadwy yn ddiweddar oedd y noson ddathlon ni fel teulu pan enillodd fy mab Steffan BAFTA a Gwobr Gwyn Alff Williams am ei gyfres Adam Price a Streic y Glowyr.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Optimist. Diamynedd. Obsesiynol.

Beth yw dy hoff lyfr?

Yn Saesneg, A Woman On The Edge of Time gan Marge Piercey, novel ffuglen wyddonol Iwtopaidd, a clasur Ffeministaidd. Darllenais y nofel gyntaf 'n么l yn yr 80au ac mae'n rhyfedd meddwl ei fod e'n gyfnod fwy optimistaidd na'r presennol erchyll.

Yn Gymraeg, Martha Jac a Sianco gan Caryl Lewis, sy'n crisialu'r bywyd gwledig sy'n gymaint rhan o'n diwylliant, ac odd yn gymaint o rhan o mhlentyndod yn Llandyfaelog. Ac wrth gwrs am fy mod wedi ca'l y fraint o chware rhan Martha annwyl, styfnig yn y ffilm ar S4C.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Amelia Earhart, Joni Mitchell, Doris Lessing, Cranogwen, Sylvia Pankhurst ac Eluned Phillips. Am eu bod yn gymysgedd o anturiaethwragedd heb ofn herio'r elfennau, yn awduron gallai grisialu syniadau ag emosiwn a creu naratif, a bydde gwleidyddiaeth y cwbl lot mor gyffrous gallen ni greu map o fyd newydd teg ac eofn yn llawn canu a chwerthin.

Disgrifiad o'r llun, Ble mae Sharon yn cadw ei thair gowbr BAFTA tybed?

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Love is Thicker than Water yn Pontio ym Mangor. Premier ffilm gan Ate De Jong am gariad a gwrthdaro diwyllianol wrth i ferch o deulu Iddewig cyfoethog yn Llundain a bachgen o deulu gweithwyr dur ym Mhort Talbot gwympo mewn cariad. Mae'n ffilm am faddeuant ac am dderbyn yr 'arall', a wnes i fwynhau e'n fawr iawn, yn arbennig gan mai fi sy'n chware mam y bachgen o Bort Talbot!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dwi'n ca'l fy nhemtio i i ddweud mynd ar sbri saethu, gan dargedu rhai gwleidyddion amlwg, ond gan mod i'n heddychwraig ddwedai gwerthfawrogi bob eiliad werthfawr gyda mhlant.

Dy hoff albwm?

Ma hwn mor anodd. Mae gymaint o atgofion ynghlwm 芒 cherddoriaeth. Dwi'n dwli ar Kirsty McColl, Leonard Cohen, Joan Armatrading, Meic Stevens, Steve Eaves, Si芒n James, a llawer mwy, ond mae'n gystadleuaeth rhwng With the Beatles - ei albwm gyntaf nhw brynais yn 14 gan ddweud wrthyf fi fy hun o wrando ar hwn bydden i byth yn anhapus eto, a Blue Joni Mitchell, meistres barddoniaeth y galon, a Blue sy'n ennill.

Disgrifiad o'r llun, Sharon yn y ffilm 'Y Llyfrgell' sydd wedi ennill clod os= sawl cyfeiriad

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be fyddai'r dewis?

Dwi'n lico bwyd shwd gymaint mae hwn yn anodd hefyd achos bydden i'n dewis y tri! Ond ma rhaid dewis y prif gwrs, cinio rhost, ffowlyn, panas, erfyn a tato potsh, a lot o grefi.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Bydden i'n troi mewn i Theresa May a rheoli ei hymenydd hi gan roi pwerau o bersw芒d arbennig iddi ddod a'r nonsens Brexit yma i ben. Bydden i'n cynnal pleidlais yn San Steffan fydden ymwrthod a'r holl beth, a felly fydden ni'n aros yn Ewrop.

Neu fel profiad mwy pleserus o lawer dreulien ni'r diwrnod fel prif ddawnswraig Cwmni Ballet Y Mariinsky, Ekaterina Kondaurova, gan ddawnsio'r prif rhannau Odette/Odile yn Swan Lake yn theatr y Mariinsky yn St Petersburg. Bues i yno pan ffilmion ni Gadael Lenin i S4C yn 1992 a cha'l fy nghyfareddu. Dawnswraig bale o'n i ishe bod yn ferch ifanc.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Catherine Tregenna