AS yn codi pryder am 'sgandal' insiwleiddio tai

Disgrifiad o'r llun, Y difrod i un o waliau Mr a Mrs Williams ym Mhenisarwaun

Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i gymryd cyfrifoldeb am y "llanast ofnadwy" sy'n prysur ddatblygu i fod yn "sgandal", ar 么l i waliau tai oedd yn anaddas ar gyfer y gwaith gael eu hinswleiddio.

Yn 么l Hywel Williams, mae miliynau o berchnogion tai ym Mhrydain yn dioddef problemau difrifol gyda thamprwydd a lleithder o achos sgil effeithiau insiwleiddio.

Mae Aelod Seneddol Arfon bellach yn galw ar y llywodraeth i weld beth yn union yw maint y broblem, cynorthwyo'r rhai sydd wedi eu heffeithio a thalu iawndal priodol.

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi ymrwymo i sicrhau fod cwsmeriaid wedi eu hamddiffyn wrth ddewis insiwleiddio eu tai.

Waliau

Ers dros ddegawd mae'r gwaith wedi bod yn cael ei wneud yn rhad ac am ddim fel rhan o gynllun sawl llywodraeth i sicrhau bod llai o ynni'n cael ei wastraffu mewn tai.

Mae Alwyn a Delyth Williams o Benisarwaun ger Caernarfon ymhlith y rhai sy'n talu'r pris ar 么l insiwleiddio waliau eu cartref yn 2004.

Ymhen cyfnod byr fe ddechreuodd y problemau, gyda phaent yn dod oddi ar y waliau mewn sawl stafell ac arogl tamprwydd.

"Mi ddechreuodd y problemau rhyw chwe mis ar 么l i'r insulation gael ei rhoi i mewn. Y paent wedi dechrau byblo rownd y ffenest ac ar hyd top y silff," dywedodd Mr Williams.

Disgrifiad o'r llun, Mae Alwyn a Delyth Williams o Benisarwaun ger Caernarfon wedi anobeithio gyda'u sefyllfa

Cafodd y pensiynwyr wybod wedyn bod y t欧 mewn lle anaddas ar gyfer y math yma o waith oherwydd cyfeiriad y gwynt a'r glaw.

"Roedden nhw fod i ddeud hynna wrthon ni, ei fod o'n wynebu tua'r de orllewin. Roedden nhw fod i ddeud hynna wrthon ni a bod y t欧 yn anaddas i roi'r insulation i mewn ond nath 'na neb ddweud hynna."

Mae Delyth Williams yn cyfaddef eu bod yn teimlo'n anobeithiol am y sefyllfa.

"Mae o yn cael ni i lawr, neud ni'n ddigalon r诺an. Mae o wedi bod yn mynd ymlaen cyhyd a 'dan ni methu planio ymlaen a gwybod beth sydd yn mynd i ddigwydd.

"'Dan ni'n gobeithio'r haf yma gawn ni sortio fo allan, ac mae'r haf yn mynd ac mae gaeaf arall yn d诺ad ac mae o'n mynd ymlaen a 'mlaen."

Disgrifiad o'r fideo, Ymaten yr Athro Owain Llywelyn o Brifysgol De Cymru

Mae Alwyn a Delyth Williams yn cael cymorth Hywel Williams AS. Maen nhw ymhlith 60 o bobl yn ei etholaeth sydd wedi cysylltu ag o.

Yn ogystal 芒 hynny mae cwynion tebyg wedi dod i'r fei gan bobl ar draws Prydain.

Ddydd Mercher fe fydd yn codi'r mater mewn dadl yn San Steffan.

Disgrifiad o'r llun, Mae Hywel Williams AS wedi derbyn cwynion gan bobl o Gymru a ledled Prydain am y broblem

"Dwi'n meddwl bod hyn yn sgandal, mae'n sgandal sydd wedi bod yn berwi am rhai blynyddoedd r诺an," meddai.

"Mae pethau'n mynd yn waeth wrth i bobl fynd yn h欧n wrth gwrs, ac wrth i'r deunydd ei hun fynd yn h欧n ac i gyflwr adeiladau ddirywio, felly dwi'n meddwl bydd 'na lawer iawn, iawn mwy o achosion fel hyn yn dod i'r amlwg.

"Mae'n hen bryd i'r llywodraeth wneud rhywbeth ar gownt y peth. Mae wir angen i'r llywodraeth chwilio mewn i'r niferoedd o dai sydd 芒'r deunydd yma i mewn ynddyn nhw.

"Does 'na neb fel eu bod nhw'n gwybod, dydi'r perchnogion ddim yn gwybod, felly mae'n rhaid cael gwybod beth ydi maint y broblem gyntaf cyn mynd ati i gael mesurau i adfer y sefyllfa."

Arolwg

Llynedd cyhoeddodd y sefydliad ymchwil adeiladu, BRE Cymru, adroddiad yn argymell bod angen arolwg cenedlaethol i weld beth yw maint y broblem yma.

Yn 么l yr ymchwil mae waliau tua 900,000 o gartrefi yng Nghymru wedi eu hinsiwleiddio.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod bod angen gwella insiwleiddio yn ein stoc tai h欧n ond rhaid i hyn gael ei wneud yn y ffordd gywir, fel cafodd ei amlygu yn adroddiad BRE Cymru.

"Mae'r sgil effeithiau ar ddeiliaid tai, y peryglon iechyd a'r straen mae pobl yn ei ddioddef pan fydd pethau'n mynd o le wedi cael eu dogfennu'n dda."

Mae Sylvia Targett, yn swyddog eiriolaeth gydag Age Cymru Gwynedd a M么n, ac mae hi'n cynrychioli 15 o gleientiaid sydd 芒 phroblemau'n eu cartrefi.

Mae hi'n pwysleisio bod y problemau sy'n deillio yn sgil hyn yn gadael eu h么l arnyn nhw.

"Maen nhw'n byw mewn sefyllfa lle mae 'na gymaint o damprwydd a d诺r ac oglau'n dod fewn i'r t欧, nes fod nhw ddim yn gwybod lle i droi," meddai.

"A'n job i ydi cysylltu gyda'r cwmn茂au a sgwennu llythyrau ar eu rhan nhw ac i edrych sut i ddatrys y problemau.

"Mae o'n effeithio ar eu hiechyd nhw yn enwedig os oes ganddyn nhw afiechydon yn barod, mae'n gwneud pethau'n waeth iddyn nhw os oes ganddyn nhw rywbeth fel asthma. Mae'n effeithio ar eu meddyliau nhw hefyd gan fod nhw ddim yn gwybod lle i droi."

Arweiniad

Bydd Arolwg Cyflwr Tai Cymru yn cael ei gynnal yn 2017-18 a bydd yn darparu'r wybodaeth fwyaf cyfredol ar nifer y tai sydd ag insiwleiddio waliau ceudod.

Mae mawr angen hyn yn 么l y tirfesurydd siartredig, yr Athro Owain Llywelyn o Brifysgol De Cymru.

"Yn sicr mae'n rhaid edrych eto ar y rheolau adeiladu sydd wedi eu datganoli yma i ni yng Nghymru, ac yn eilbeth mae'n rhaid cael arweiniad clir ynghylch y cwmn茂au sy'n gwneud y gwaith yma," meddai.

"Mae 'na enghreifftiau eitha' anffodus lle mae'r gwaith ddim wedi bod o'r safon sydd i'w ddisgwyl.

"Mae hynny wedi achosi llawer iawn o broblemau i nifer o berchnogion tai."