Cynhadledd i geisio datrys prinder gwerslyfrau Cymraeg

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Mynd i'r afael 芒 phryderon am ddiffyg gwerslyfrau Cymraeg fydd yn cael ei drafod mewn cynhadledd sy'n cael ei chynnal gan yr Ysgrifennydd Addysg ddydd Mercher.

Wrth i gymwysterau a chwricwlwm newydd i Gymru gael eu cyflwyno, mae Kirsty Williams wedi dweud bod prinder gwerslyfrau cyfrwng Cymraeg yn "destun pryder".

Daw hyn yn dilyn galwad i ohirio cyflwyno cyrsiau newydd oni bai bod gwerslyfrau Cymraeg a Saesneg yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd.

Yn y gynhadledd, bydd cynrychiolwyr o'r llywodraeth, CBAC, Cymwysterau Cymru a mudiadau eraill yn trafod sut i sicrhau darpariaeth o werslyfrau.

Yn ogystal ag edrych ar y sefyllfa bresennol, bydd y gynhadledd yn ystyried yr "heriau" o amgylch gwerslyfrau Cymraeg a diwallu anghenion y dyfodol.

Disgrifiad o'r llun, Mae Kirsty Williams wedi dweud bod prinder gwerslyfrau cyfrwng Cymraeg yn "destun pryder"

Cyn y gynhadledd yng Nghaerdydd, dywedodd Ms Williams bod Cymru "ar ganol newid mawr ym maes addysg", a'i fod yn "destun pryder imi glywed bod prinder gwerslyfrau Cymraeg".

"Dwi ddim yn disgwyl i blant sy'n sefyll eu harholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg fod o dan unrhyw anfantais.

"Rydyn ni wedi cydweithio 芒 CBAC i edrych ar y mater hwn, a bellach mae yna arferion newydd sydd wedi helpu i leihau'r bwlch rhwng darparu gwerslyfrau Cymraeg a Saesneg."

Ychwanegodd mai atebion "dros dro" sydd wedi eu cytuno hyd yn hyn, ac nad yw'n "fodlon" gyda'r sefyllfa.

"Mae'r digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd pobl sy'n gallu gwneud gwahaniaeth a helpu i gynnig atebion hir dymor," meddai.

'Hollol annheg'

Dywedodd Arwel George o Gymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg wrth raglen Post Cyntaf Radio Cymru fore Mercher bod y sefyllfa yn "hollol annheg".

"Dyw'r adnoddau cyfrwng Cymraeg sy'n cyfateb 芒'r adnoddau cyfrwng Saesneg ddim ar gael am fisoedd, ac weithiau blwyddyn ar 么l i'r rhai Saesneg ymddangos," meddai.

"Mae'n hollol annheg i'r bobl sy'n dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac i'r athrawon sy'n darparu'r cyrsiau hynny.

"Bwriad heddiw nid yn unig yw cymryd stoc o'r sefyllfa fel ag y mae, ond symud i sefyllfa lle mae egwyddor sylfaenol bod rhaid cael adnoddau yn y ddwy iaith ar yr un pryd, a hynny cyn cychwyn dysgu unrhyw gymhwyster newydd."