Lidl yn colli ap锚l dros hawliau gweithwyr ym Mhen-y-bont

Mae archfarchnad Lidl wedi dweud eu bod yn "siomedig" ar 么l colli achos yn y Llys Ap锚l yn erbyn undeb y GMB.

Roedd GMB yn honni fod y cwmni wedi gwrthod gadael i weithiwyr mewn warws ym Mhen-y-bont rhag cael eu cynrychioli gan yr undeb.

Llynedd fe wnaeth y Pwyllgor Cyflafareddu Canolog ddyfarnu o blaid yr undeb, cyn i achos yn yr Uchel Lys ddod i'r un casgliad.

Yn dilyn penderfyniad y Llys Ap锚l i wrthod achos Lidl, mae'r archfarchnad nawr yn dweud y byddan nhw'n "parchu'r penderfyniad".

Mae rhiant-gwmni Lidl wedi'i gofrestru yn yr Almaen, ond mae gan yr archfarchnad 637 o siopau a naw canolfan ddosbarthu ym Mhrydain sy'n cyflogi 18,000 o staff.

'Buddugoliaeth'

"Er gwaethaf ymdrechion cyson Lidl i dorri undebaeth, mae'r llys heddiw wedi cynnal y fuddugoliaeth anferth i hawliau gweithwyr," meddai Lorraine Gaskell, trefnydd rhanbarthol gyda GMB.

"Mae'r cwmni wedi dangos diffyg parch llwyr i ddymuniadau eu staff eu hunain - a gwastraffu arian cyfranddalwyr gyda'r ap锚l wamal yma.

"Bydd hyn nawr yn caniat谩u i weithwyr ym Mhen-y-bont drafod eu t芒l ac amodau drwy gynrychiolwyr undeb fydd wedi eu hethol yn uniongyrchol."

Dywedodd llefarydd ar ran Lidl y byddai'r "broses bleidleisio yn derbyn ein cefnogaeth lawn".

"Fel cwmni cyfrifol, rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod ein gweithwyr yn cael lefel uchel o gefnogaeth fewnol, a th芒l ac amodau sydd ymysg y gorau yn y diwydiant".