Ateb y Galw: Betsan Llwyd

Betsan Llwyd, cyfarwyddwr artistig Theatr Bara Caws, sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan Olwen Rees yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Fi a mrawd yn eistedd gyda Taid ar fainc tu allan i'r tÅ· ym Magillt, Sir y Fflint. Roedd hi'n haul braf a Taid wedi hoelio ein sylw wrth blygu darn o bapur y naill ffordd a'r llall yn ddeheuig, cyn rhwygo tameidiau bach ohono'n ofalus, agor y darn papur allan a dadlennu rhes o ferched bach yn dal dwylo ac yn dawnsio. Hudolus.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Roedd rhaid i bob merch oedd yn ei harddegau yn y '70au ddewis naill ai Donny Osmond neu David Cassidy fel eilun. Donny oedd fu'n i, a phosteri lu ar wal fy llofft.

Ond fy eilun o Gymro oedd Dewi Pws! Blynyddoedd yn ddiweddarach, a ninnau'n chwarae gŵr a gwraig yng nghyfresi cyntaf Rownd a Rownd, dyma ddweud wrtho - welais i erioed mohono mor swil…

Disgrifiad o'r llun, Dewi Pws... swil? Does bosib!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Yndoes 'na gymaint ohonyn nhw? Ond efallai mai'r un sydd, erbyn hyn, yn gwneud i mi chwerthin bob tro feddyliai amdano yw'r un pan aeth fy mab i Siapan ar ymweliad pan yn yr ysgol uwchradd, gan aros â theuluoedd lleol. Ninnau wedyn yn croesawu'r disgyblion o Siapan i'n tai ni yng Nghymru.

'Ro'n i wedi bod wrthi'n dysgu cyfarchiad arbennig yn yr iaith frodorol, ac wrth i Elis a chriw o hogiau ddod drwy'r drws, mi welais un bachgen â chroen tywyllach a gwallt llawer duach na'r lleill, es ato, moesymgryu mymryn a murmur Konishiwa, 'mond i weld Elis wedi dychryn ac yn llawn embaras gan ddeud, 'Mam, Owen 'di hwnna!' - ac ar hynny dyma'r fintai o hogiau bach o Siapan yn eu dilyn dros y trothwy…

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Wrth ddarllen a gwrando ar straeon diffuant o'r galon tra'n gweithio ar gynhyrchiad newydd Bara Caws, Gair o Gariad

Disgrifiad o'r llun, Golygfa o Gair o Gariad, cynhyrchiad diweddara' Theatr Bara Caws

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Lot - ond gwasgu'r tiwb pâst dannedd yn y lle rong ydi'r gwaethaf (mae'n debyg!)

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae gen i ddau hoff le ar hyn o bryd - un ydi balconi'r fflat bach yn Felinheli ar b'nawn braf yn gwylio'r llongau ar y Fenai, a'r llall yw Caerdydd - fanna yw adref i mi.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fedrai'm penderfynu.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Diplomataidd, manwl, prysur.

Beth yw dy hoff lyfr?

Yn Gymraeg - Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard - mae wedi chwarae rhan bwysig iawn yn fy nghyrfa i. A llyfr mewn cyfieithiad - House of the Spirits gan Isabelle Allende - syfrdanol.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Peter Brooke a Kathryn Hunter - dau ymarferwr theatr dwi'n eu hedmygu'n fawr - a Carlos Acosta a Darcey Bussell o fyd dawns. Gallwn gael y cyfle i'w holi'n dwll ynglŷn â sut maent yn mynd ati i ddarganfod ac i greu gwaith sy'n cyffwrdd ac yn ysbrydoli.

Disgrifiad o'r llun, Betsan a Catrin Aaron mewn ymarferion ar gyfer y ddrama 'Salt, Root and Roe'

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Julietta gan Pedro Almodóvar - clyfar, diymhongar a gwych!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Gafael yn dynn yn fy nheulu.

Dy hoff albwm?

Live at the O2 - Leonard Cohen - yn enwedig gan mod i yno.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be' fyddai'r dewis?

Prif gwrs - pysgod a pherlysiau, neu basta llysieuol - ond dim madarch!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Unrhyw prima ballerina sydd ar frig ei gyrfa!

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Rhodri Evan