麻豆官网首页入口

Ateb y Galw: Peredur ap Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Peredur

Y cerddor Peredur ap Gwynedd sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Rhodri Evan yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Eistedd ar gadair uchel tra o'n i'n fabi adref ac yn edrych ar Tom & Jerry

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Olivia Newton-John

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'm yn gwbod- dwi ddim yn berson sy'n cywilyddu yn hawdd iawn!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Diwrnod fy mhriodas i

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

O'n i'n arfer smocio felly dwi'n meddwl hwnna oedd y gwaethaf. Ond dwi 'di rhoi'r gorau iddi nawr ers deng mlynedd.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Sir Benfro. Mae hi mor bert yno ac yn le gwych i seiclo.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Band drwm a b芒s a roc trydanol, Pendulum. Mae Peredur (ar y dde) wedi bod yn aelod ers 2006

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Y diwrnodau dwi wedi ei gael ym Mharis ar ddiwrnod ola'r Tour de France. Mae nhw'n achlysuron arbennig iawn, ac mae'r awyrgylch yna'n ffantastig.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Gitarydd, beiciwr, Cymro.

Beth yw dy hoff lyfr?

Rita Hayworth and Shawshank Redemption gan Stephen King

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Phil Lynott, prif leisydd Thin Lizzy. Dwi'n 'nabod bobl oedd yn ffrindie gyda fe - ac mae'n swnio fel dipyn o gymeriad fydde'n gwmni da!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Star Wars Rogue One, ac o'n i'n meddwl bod e'n wych.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Seiclo i fyny llwybr Col du Galibier yn yr Alpau. Yna wedi imi seiclo 'nol lawr bydde ni'n cael parti mawr ar y gwaelod a gig.

Dy hoff albwm?

Sky Blue gan Devin Townsend Project yw'r album rwy'n gwrando arno ar hyn o bryd.

Ond fy hoff albwm erioed mae'n siwr yw rhywbeth fel And she closed her eyes gan Stina Nordenstam.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be' fyddai'r dewis?

Pork belly i ddechrau, lobster fel prif gwrs a Cr猫me br没l茅e yn bwdin.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Fy ngwraig, er mwyn cael treulio amser gyda fi...haha (j么c!)

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Iwan John