Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Cyflwyno cynllun 'cryno' ar gyfer gorsaf Wylfa Newydd

  • Cyhoeddwyd
Wylfa NewyddFfynhonnell y llun, Horizon

Mae datblygwyr gorsaf ynni niwclear newydd gwerth £10bn ar Ynys Môn wedi datgelu cynllun mwy cryno ar gyfer y datblygiad.

Mae Horizon Nuclear Power wedi lansio trydydd ymgynghoriad ffurfiol ar gynlluniau gorsaf Wylfa Newydd, gan gynnwys 17 o gyfarfodydd cyhoeddus a sesiynau galw i mewn.

Fe fyddai'r brif orsaf bŵer yn cymryd llai o le, gyda mwy o adeiladau rhwng y ddau adweithydd.

Ond mae mudiad gwrth-niwclear Pobl Atal Wylfa B (PAWB) wedi dweud nad yw'r cyhoeddiad yn "lleddfu pryderon", a'i fod yn cynyddu "ofnau am ddiogelwch".

Manteision yn lleol?

Mae Horizon yn gobeithio cyflwyno cais cynllunio, sy'n cael ei alw'n Orchymyn Caniatâd Datblygu, yn ddiweddarach eleni.

Mae'r datblygwyr wedi bod mewn trafodaethau ers peth amser gyda chwmni Land and Lakes, y cwmni tu ôl i gynllun pentref gwyliau gwerth £120m, ar gyfer lleoli staff dros dro.

Mae creu ardaloedd aros yng Nghae Glas a Kingsland wedi bod yn un opsiwn, ond mae'r cynnig sy'n cael ei ffafrio yn cynnwys campws ar un safle, gyda thua 2,500 o welyau a'r gallu i gael 4,000 os oes angen.

Byddai unrhyw ddatblygiad yn cynnwys cyfleusterau iechyd, hamdden a siopa i leddfu'r baich ar wasanaethau cyhoeddus lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Winston Roberts am weld Horizon yn cydweithio â'r gymuned leol

Ond mae un cynghorydd lleol wedi cwestiynu faint o fantais sydd i leoli hyd at 4,000 o weithwyr dros dro ar un campws.

Mae Gareth Winston Roberts, Cadeirydd Cyngor Tref Amlwch, am weld Horizon yn cydweithio â'r gymuned leol i ddatblygu hen safle Shell yn Rhosgoch, a'i droi yn barc gwyliau ar ôl i'r gweithwyr adael.

"Byddai hynny'n creu rhyw 200 o swyddi am 30 o flynyddoedd," meddai.

Mae hefyd am weld mwy o dai parhaol fyddai pobl leol yn medru fforddio eu rhentu ar ôl i'r gweithwyr dros dro adael.

"Mae cost y prosiect yn bwysig ond os nad oes 'na elw i bobl Môn mae hynny'n broblem," meddai.

'Torri costau'

Mewn datganiad, mynnodd PAWB mai "problemau ariannol" rhyngwladol yn y diwydiant niwclear oedd wedi arwain at y penderfyniad gan Horizon i "dorri costau".

"Pa gorneli fyddai Horizon yn barod i'w torri a chyfaddawdu diogelwch?" holodd y llefarydd.

"Mor absennol ag arfer o ddatganiad Horizon mae unrhyw gyfeiriad at sefydlu tomen wastraff ymbelydrol ar y safle, ar gyfer y gwastraff dwywaith poethach a dwywaith mwy ymbelydrol, fyddai'n cael ei gynhyrchu o'r ddau adweithydd enfawr."

Ychwanegodd: "Prin fod hynny yn ffafriol i les twristiaeth ym Môn."

Dywedodd Horizon fod newidiadau eraill yn cynnwys:

  • Defnyddio llai o weithwyr adeiladu - lawr o tua 10,000 i gyn lleied â 8,350 - ac amserlen adeiladu "symlach"

  • Rhaglen o fuddsoddi cyfalaf ar gyfer pum ysgol uwchradd ar yr ynys i wella cyfleusterau gwyddoniaeth a thechnoleg

  • Cyllid ar gyfer tai fforddiadwy newydd, i ddechrau yn nalgylch yr orsaf bŵer ac yn nhref Amlwch

  • Cydlynydd Iaith Gymraeg a diwylliant er mwyn sicrhau gwarchod a gwella'r iaith Gymraeg, a'u bod yn "parhau i fod wrth wraidd" y datblygiad

  • Bydd 80% o ddeunyddiau adeiladu yn cyrraedd trwy harbwr arbennig y bydd Horizon yn adeiladu er mwyn osgoi tagfeydd ar ffyrdd lleol.

Dywedodd Duncan Hawthorne, Prif Weithredwr Horizon Nuclear Power, eu bod am wneud y prosiect y gorau y gall fod.

Dywedodd bod rhaid i'r cynllun fod yn un "y gallwn ei ddatblygu, tra ar yr un pryd yn darparu gorsaf bŵer newydd sbon".

"Mae'r newidiadau yr ydym yn eu cynnig yn ein galluogi i symleiddio ein hamserlen adeiladu, lleihau nifer y gweithwyr adeiladu sydd ei angen, a lleihau nifer y safleoedd datblygu fydd eu hangen arnom," meddai.

Pe bai'n cael caniatâd terfynol mae disgwyl i Wylfa Newydd greu 850 o swyddi parhaol.

Arddangosfeydd cyhoeddus

Bydd y cwmni yn dangos eu cynlluniau mewn arddangosfeydd ar draws y rhanbarth, gyda'r cyntaf ar ddydd Sadwrn 27 Mai yn Neuadd y Dref, Llangefni.

Dywed Horizon eu bod yn hyderus y gallant gwblhau'r orsaf bŵer erbyn canol y ddegawd nesaf, gan obeithio dechrau cynhyrchu trydan erbyn 2025.

Bydd gan yr orsaf bŵer gapasiti o leiaf 2,700 megawat o drydan, gan gynhyrchu digon o bŵer ar gyfer tua 5m o gartrefi.

Cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud am y datblygiad, fe fydd yn rhaid i lywodraeth nesaf y DU gytuno gyda'r datblygwyr ar bris y trydan.

Beth mae'r pleidiau yn ei ddweud?

Ychydig iawn yw'r cyfeiriadau uniongyrchol at ynni niwclear ym maniffestos y pleidiau:

Ceidwadwyr: Byddwn yn ffurfio ein polisi ynni heb fod yn seiliedig ar y ffordd y bydd yn cael ei gynhyrchu.

Wedi dweud hynny, rydym yn gobeithio gweld mwy o ynni dibynadwy a fforddiadwy, gan achub ar y cyfle i fanteisio ar ddatblygiadau diwydiannol a thechnolegol newydd a hynny er mwyn bodloni ein hymrwymiadau byd-eang ar newid yn yr hinsawdd.

Llafur: Bydd niwclear yn parhau i fod yn rhan o'r cyflenwad ynni.

Bydd y Blaid Lafur yn cefnogi prosiectau niwclear pellach a diogelu swyddi a phensiynau gweithwyr niwclear. Mae cyfleoedd sylweddol i ynni niwclear a dadgomisiynu yn rhyngwladol ac yn ddomestig.

Democratiaid Rhyddfrydol: Gall gorsafoedd ynni niwclear newydd chwarae eu rhan yn y cyflenwad trydan, cyn belled a bod pryderon am ddiogelwch yn y maes hwn, gan gynnwys y gost a'r broses o waredu gwastraff, yn cael sylw digonol, a bod technoleg newydd yn cael ei ymgorffori, ac nad oes unrhyw gymhorthdal ​​cyhoeddus yn cael ei roi i adeiladu datblygiado'r newydd.

Plaid Cymru: Dywedodd y blaid eu bod yn awyddus i sicrhau bod etifeddiaeth hir dymor Wylfa Newydd a'r prosiectau ynni eraill a gynigir ar gyfer yr ynys, gan ddweud fod y cyfleoedd yn rhai "cyffrous iawn".