麻豆官网首页入口

Lle oeddwn i: Amy Wadge a'r Grammy

  • Cyhoeddwyd

Y gantores a'r gyfansoddwraig Amy Wadge yw Llywydd Eisteddfod yr Urdd ddydd Llun Mai 29.

Y llynedd cafodd Amy anrhydedd arall pan enillodd hi Grammy, am y g芒n a gyd-sgwennodd gyda Ed Sheeran, Thinking Out Loud.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gantores Amy Wadge, sy'n wreiddiol o Loegr, wedi dysgu'r Gymraeg

"Mae'n fraint enfawr i fod yn Llywydd, a dwi'n gyffrous iawn," meddai wrth Cymru Fyw. "Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i dreulio'r diwrnod gyda fy nheulu a gweld yr holl bethau arbennig sydd gan yr Eisteddfod i'w gynnig eleni.

"Mae gan fy mhlentyn hynaf un o'r prif rannau yn y sioe ac hefyd yn cystadlu mewn c么r ac yn y G芒n Actol.

"Dwi'n meddwl fod Eisteddfod yr Urdd yn rhywbeth gwych i bobl ifanc fod yn rhan ohono, mae'n deyrnged i'r diwylliant a'r celfyddyd sydd gyda ni yng Nghymru."

Ond beth yw hanes y g芒n enwog a sut y mae bywyd Amy wedi newid ers ei chyfansoddi?

Sgrifennais y g芒n gyda Ed yn oriau m芒n y bore, yng nghegin ei d欧 e, jyst y ddau ohonon ni a git芒r.

Roedd Ed newydd golli ei dad-cu, ac roedd fy mam yng nghyfraith yn s芒l iawn yn yr ysbyty ar y pryd hefyd, a buodd hi farw rhai wythnosau'n ddiweddarach. Roedd Ed a finne wedi bod yn trafod y syniad o gariad am oes, a daeth y syniad o'r fan honno.

Ro'n i'n 39 oed ar y pryd, yn byw ym Mhontypridd (dwi'n dal i fyw yno), ro'n i wedi bod yn sgwennu caneuon yn broffesiynol ers deng mlynedd cyn hynny.

Mae'r g芒n yma'n meddwl y byd i fi. Ro'n i wedi gweithio gyda Ed am ddeng mlynedd, ac mae'n anhygoel ein bod ni wedi rhannu'r llwyddiant gyda'r g芒n.

Mae popeth wedi newid ers i fi sgrifennu Thinking Out Loud. Yn enwedig ers ennill y Grammy, mae hynny wedi agor pob drws posib i fi. Dwi'n teithio'r byd yn sgwennu caneuon erbyn hyn, yn cyd-weithio gyda artistiaid anhygoel. A dwi'n caru bob munud.