Disgwyl 'teimlad gwahanol' i Eisteddfod yr Urdd yn 2018

Disgrifiad o'r llun, Rhiannon Walker yw swyddog datblygu'r Urdd yn ardal yr eisteddfod yn 2018

Bydd "teimlad gwahanol" i Eisteddfod yr Urdd yn 2018 o'i gymharu 芒'r arfer, yn 么l un o swyddogion y mudiad sydd yn gweithio yn yr ardal.

Yn 2018 fe fydd yr 诺yl ieuenctid yn ymweld 芒 Brycheiniog a Maesyfed, gyda'r maes wedi'i leoli ar safle'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Llynedd cafodd Rhiannon Walker ei phenodi'n Swyddog Datblygu newydd y mudiad yn yr ardal, er mwyn hybu gwaith yr Urdd cyn y digwyddiad.

Mae hi eisoes wedi bron a threblu'r nifer sydd wedi cystadlu mewn cystadlaethau chwaraeon yn yr ardal - o 368 i 1,063 - gyda chynnydd hefyd yn nifer y cystadleuwyr yr eisteddfodau cylch a sir.

'Mor gefnogol'

"Dros y flwyddyn ddiwethaf mae cynnydd mawr wedi bod yn ymhob elfen o waith yr Urdd yn yr ardal, ac mae'n deimlad gwych i weld," meddai wrth 麻豆官网首页入口 Cymru Fyw.

"Yr adborth dwi'n ei gael gan athrawon a rhieni yn yr ardal, maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi bod yn gofyn am fwy o weithgareddau'r Urdd ers blynyddoedd, a nawr maen nhw'n ei gael e.

"Dwi'n meddwl fod e wedi dod ar amser perffaith, achos nawr mae pobl mor gefnogol i bopeth ni'n neud yn yr ardal, yn enwedig codi arian tuag at yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf."

Disgrifiad o'r llun, Elen Hughes oedd enillydd y goron yn Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac El谩i

Er yr her o geisio cynyddu gweithgaredd yr Urdd mewn ardal ble nad yw'r mudiad wedi bod mor gryf yn draddodiadol, mae Rhiannon Walker yn dweud nad yw'r swydd wedi bod yn un anodd.

"Yr oll mae pobl angen yw'r gefnogaeth yna, a bod gweithgareddau'n mynd ymlaen yn yr ardal," meddai.

"Mae'n rhaid bod wyneb yn yr ardal yna, allwch chi ddim jyst anfon e-bost neu ffonio a gobeithio fod pobl yn dod.

"Mae pobl yn gorfod dod i'ch nabod chi a gwybod fod pethau'n mynd mlaen, cael y pwynt cyswllt yna, a gwybod lle i fynd i gael y wybodaeth yna."

Her

Er y bydd lleoliad y maes yn un cyfarwydd i rai ymwelwyr, mae Rhiannon Walker yn benderfynol y bydd yr Urdd yn rhoi eu stamp unigryw eu hunain ar y lle.

"Dyna'r her i ni, gwneud yn siwr fod y maes yn edrych fel Eisteddfod yn hytrach na mynd i'r Sioe," meddai.

"Bydd dim pebyll yn cael eu codi ar y maes, byddwn ni'n defnyddio'r adeiladau sydd yno, ond bydd ardal Pentre Mistar Urdd gyda'r ffair a'r ardal chwaraeon i gyd yr un peth ar y maes.

"Bydd e'n deimlad gwahanol. Ond bydd popeth ry'n ni angen yno'n barod felly bydd e'n wych yna dwi'n siwr."