麻豆官网首页入口

Profiad Cymro wedi ymosodiadau Llundain nos Sadwrn

  • Cyhoeddwyd
HeddluFfynhonnell y llun, PA

Mae Cymro oedd yn llygad dyst i'r ymosodiadau yn Llundain nos Sadwrn wedi bod yn siarad am ei brofiad.

Roedd Gareth mewn t欧 bwyta yn un o'r lleoliadau lle digwyddodd yr ymosodiadau sef Borough Market.

Fe ddaeth un o'r ymosodwyr mewn i'r bwyty gyda chyllell a bu'n rhaid i Gareth a'i ffrindiau gloi eu hunain yn y t欧 bach am eu bod yn ofni am eu bywydau.

Mae saith o bobl wedi eu lladd a cafodd tri sy'n cael eu hamau o fod yn gyfrifol eu saethu'n farw gan yr heddlu.

Yr hyn rydym ni'n gwybod

  • Daeth yr adroddiadau cyntaf am yr ymosodiadau ychydig ar 么l 22:00 gyda'r s么n fod fan wen wedi bwrw i mewn i griw o gerddwyr ar London Bridge.

  • Yn 么l tystion roedd y fan wedi gwyro'n sydyn a mynd dros y palmant.

  • Mae'r heddlu'n dweud i'r fan gael ei gyrru wedyn i Borough Market lle neidiodd tri dyn allan ac yna thrywanu aelodau o'r cyhoedd yn yr ardal.

  • Mae'r heddlu yn dweud mai "digwyddiadau terfysgol" oedd yr hyn ddigwyddodd.

  • Roedd yr ymosodwyr yn gwisgo fest bomiau ffug.

Ffynhonnell y llun, PA

S诺n ergyd glywodd Gareth i ddechrau ac yna pobl yn rhedeg lawr y stryd.

"Odd y restaurant lle o'n i yn aros, oedd tua 50 o bobl yn dechrau symud i'r cefn ac yn dechrau gwneud s诺n a ddim yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen.

"O'n i efo ffrind fi a dau ffrind arall. Odd un ohonyn nhw yn disgwyl cael babi wythnos dwytha.

"Oeddan ni yn teimlo bod rhywbeth drwg am ddigwydd.

"O'n i yn dal ffrindiau fi a cymryd nhw fyny grisiau i gloi ni yn y toilet.

Gwaedd ger y drws

"Wedyn, jest cyn i fi gloi fy hun yn y toilet, dyma fi yn edrych lawr y grisiau a chlywed gwydr yn smashio a dyn yn cerdded mewn efo cyllell mawr yn edrych fel machete a merched yn crio a lot o sgrechian yn mynd ymlaen."

Yn y t欧 bach fe wnaethon nhw anfon negeseuon testun yn gofyn i'r gwasanaethau brys am help.

Roedden nhw yno am ryw awr meddai ac yn gallu clywed sgrechfeydd tu allan, yna distawrwydd.

"Wedyn dyma'r dyn armed response yn dod i'r drws ac yn gweiddi arnom ni i ddod allan. Ond o'n i ddim yn si诺r os oedd o yn fo neu beidio neu yn rhywun arall.

"Nathan ni gymryd siawns a mynd allan efo breichiau uwchben ein pennau.

"Ac wedyn lwcus oedd yr armed response person wedi dod aton ni a dweud rydan ni yn disgwyl bod popeth drosodd."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd aelodau o'r cyhoedd yn gorfod rhoi eu dwylo ar eu pennau am fod yna bryder fod yr ymosodwyr yn ceisio cymysgu gyda'r dorf

Mae nifer o bobl wedi eu hanafu ac yn 么l Gwasanaeth Ambiwlans Llundain fe gludon nhw o leiaf 48 i bump ysbyty yn y brifddinas. Mae 21 o bobl yn parhau mewn cyflwr difrifol.

Ymysg y rhai anafwyd mae pedwar swyddog Heddlu wnaeth geisio atal yr ymosodiad, dau gydag anafiadau difrifol.

Mae 12 o bobl wedi eu harestio yn Barking, Dwyrain Llundain.

Mae'r Prif Weinidog, Theresa May, wedi galw'r digwyddiad fel un "erchyll" sy'n cael ei drin fel "gweithred derfysgol posib" ac wedi bod yn cadeirio cyfarfod brys o'r pwyllgor argyfwng Cobra.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd pobl eu tywys o'r ardal wedi'r ymosodiad

Tyst arall i'r hyn ddigwyddodd oedd Mike Williams.

Mae'n aelod o g么r Cymraeg ac roedd mewn parti yn agos i'r farchnad gyda rhai o aelodau'r c么r yn gwylio g锚m derfynol Cynghrair y Pencampwyr.

"Ar 么l y g锚m oedden ni jest yn cael cwpl mwy o drinks ac wedyn oedden ni yn gweld golau yn fflachio tu allan. O'n i yn cael negeseuon testun ac yn y blaen yn dweud bod rhywbeth wedi digwydd."

Disgrifiad,

Llinos Griffin yn trafod y profiad o fod mewn cyswllt gyda'i brawd oedd ynghanol ymosodiad Llundain

Symud o'r ardal

Fe aethon nhw tu allan i weld beth oedd yn digwydd ond fe ddywedodd yr heddlu wrthynt fod yn rhaid iddyn nhw adael yr ardal.

Roedd gweddill aelodau'r c么r ar wasgar meddai.

"Odd rhai o'r c么r mewn un pub, rhai mewn pub arall ac o'n nhw yn cael lock ins. Odd security yn dweud bod neb yn gallu mynd allan o'r pub a neb yn gallu dod mewn. Oedd na jest mayhem a chaos rili.

Ffynhonnell y llun, PA

Yn sgil y digwyddiadau mae'r blaid Geidwadol wedi rhoi'r gorau i'w ymgyrchu gwleidyddol ddydd Sul ac mae'r pleidiau eraill hefyd wedi gwneud yr un peth heblaw am UKIP.

Fe ddiolchodd yr arweinydd Llafur Jeremy Corbyn, y gwasanaethau brys am eu gwaith yn dilyn "y digwyddiadau brawychus a chiaidd".

Hwn yw'r trydydd ymosodiad o'i fath ym Mhrydain ers mis Mawrth ac mae'r heddlu wedi apelio ar i'r cyhoedd gadw draw o ardal yr ymosodiad nos Sadwrn.