Hyd at 170 o swyddi mewn perygl ym Mhrifysgol Bangor

Mae'n bosib bod hyd at 170 o swyddi fod mewn perygl ym Mhrifysgol Bangor, fel rhan o ymgais y sefydliad i arbed 拢 8.5miliwn.

Mae'r brifysgol yn trafod ag undebau, gan gynnwys Unsain, dros amrywiaeth o gynigion sydd ar gael, gan gynnwys y posibilrwydd o leihau'r wythnos waith i osgoi diswyddiadau.

Nid yw'n glir pa swyddi fyddai'n cael eu heffeithio pe bai diswyddiadau yn cael eu gwneud.

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol fod y newyddion yn dod yn dilyn "adolygiad eang, sydd wedi bod yn mynd ymlaen ers misoedd, er mwyn ymateb i'r newidiadau a fydd yn codi yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod ac i fynd i'r afael heriau ariannol sylweddol".

'Buddsoddi yn y dyfodol'

Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro John G Hughes: "Wrth gynnal yr adolygiad hwn, mae wedi bod yn bwysig i greu lle ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol, a hynny mewn rhaglenni academaidd newydd a phresennol, yn ogystal 芒 chyfleusterau gwell a fydd yn sicrhau bod Bangor yn parhau i ddarparu addysg o ansawdd uchel.

"Mae llawer wedi ei gyflawni yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau sefydlogrwydd ariannol cadarn, ac i wneud hynny, mae'n rhaid gwneud yr arbedion angenrheidiol.

"Dim ond drwy wneud hynny y byddwn yn gallu cynnal a datblygu'r nifer o gryfderau sydd gennym fel sefydliad ac yr ydym i gyd wedi gweithio mor galed i gyflawni."

Ers cychwyn yr adolygiad yn 2016 mae'r Brifysgol yn dweud eu bod wedi dioddef toriadau ariannol pellach yn y flwyddyn ariannol bresennol, ac fe fydd toriadau pellach yn cael eu cynnig yn 2017/18.

Ychwanegodd yr Athro John Hughes:

"Mae'r Brifysgol yn, ac wedi bod, yn trafod gydag undebau llafur a staff sut i gyrraedd targed yr arbedion ac i'w lliniaru cyn ein bod yn gorfod wynebu diswyddiadau.

"Dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, bydd cyfres gynhwysfawr o gamau yn cael eu mabwysiadu er mwyn gwneud yr arbedion angenrheidiol."