Owen Smith yn 么l yng nghabinet yr wrthblaid

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r cyn-ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Owen Smith, yn 么l yng nghabinet yr wrthblaid.

Mae AS Pontypridd wedi'i benodi'n Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon yr wrthblaid gan Jeremy Corbyn.

Fe wnaeth Mr Smith adael ei r么l fel Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yr wrthblaid yn 2016 i herio Mr Corbyn am yr arweinyddiaeth.

Cynyddodd Mr Smith ei fwyafrif o tua 2,500 pleidlais yn yr etholiad cyffredinol yr wythnos diwethaf.