麻豆官网首页入口

Ymgynghori pellach ar gau cartref gofal yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
BodlondebFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 13 o breswylwyr yng nghartref Bodlondeb

Mae cynghorwyr yng Ngheredigion wedi argymell y dylai'r cyfnod o ymgynghori cyn penderfynu a ddylid cau cartref preswyl yn Aberystwyth gael ei ymestyn o wyth i 12 wythnos.

Dywedodd adroddiad gan swyddogion y sir y dylid cau cartref Bodlondeb, ond mae'r cyngor eto i wneud penderfyniad terfynol yngl欧n 芒 hynny.

Penderfynodd y pwyllgor cymunedau iachach ddydd Gwener i argymell y dylai'r penderfyniad yngl欧n ag ymgynghori i gau'r cartref gael ei wneud gan y cyngor llawn, yn hytrach na'r cabinet.

Mae'r cabinet i fod i gwrdd ar 20 Mehefin lle mae disgwyl i gais gael ei wneud i drosglwyddo'r penderfyniad terfynol o ddwylo'r Cabinet i'r Cyngor llawn.

Bu'r cyngor yn ceisio gwerthu cartref Bodlondeb, sy'n cyflogi 33 o staff, ers dwy flynedd.

Mae'r safle yn costio 拢400,000 y flwyddyn i'w gynnal, ac mae angen gwaith adnewyddu ar yr adeilad yn 么l adroddiad gan swyddogion y sir.

'Safonau angenrheidiol'

Dywedodd undeb y GMB y bydd cau'r cartref yn creu "gwagle mawr" yn y gofal sy'n cael ei gynnig yng nghanolbarth Cymru.

Ar hyn o bryd mae gan Bodlondeb 13 o drigolion - 11 yn barhaol a dau dros dro.

Mae gwelyau i 44 yn y cartref, ond dim ond 26 sydd wedi eu cofrestru, gan nad yw'r gweddill yn cyd-fynd 芒'r safonau angenrheidiol.

Mae Bodlondeb hefyd yn gallu cynnig gofal dyddiol i hyd at bump o bobl. Ar hyn o bryd mae un person yn mynd yno dau ddiwrnod bob wythnos.

Dywedodd Cyngor Ceredigion bod llefydd gwag mewn cartrefi eraill yn y sir, a bod hyn yn ei dro yn adlewyrchu'r newid sydd wedi bod yn natur gofal yr henoed.

Yn gyffredinol, yn 么l yr adroddiad, mae pobl yn h欧n wrth symud i ofal preswyl, a hynny gyda gofynion mwy cymhleth.