麻豆官网首页入口

Adroddiad yn argymell i'r Cynulliad gyflogi newyddiadurwyr

  • Cyhoeddwyd
Adroddiad

Fe ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol gyflogi t卯m o newyddiadurwyr er mwyn ymateb i doriadau i'r wasg draddodiadol yng Nghymru, yn 么l adroddiad newydd.

Dyma un o argymhellion tasglu gafodd ei gadeirio gan gyn weinidog Llywodraeth Cymru, yr Athro Leighton Andrews.

Mae'r gr诺p wedi archwilio ffyrdd o wella gwasanaethau newyddion a gwybodaeth y Cynulliad, ac i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd am waith y sefydliad.

Dywedodd yr adroddiad eu bod yn "awgrymu sefydlu t卯m bach o newyddiadurwyr dan arweiniad golygydd profiadol a diduedd sy'n canolbwyntio ar gynhyrchu cynnwys am y straeon sy'n deillio o'r Cynulliad".

Disgrifiad,

Mae'n bwysig gweld y Cynulliad yn ymestyn allan medd Leighton Andrews.

Mae'r adroddiad yn awgrymu y gallai'r t卯m gyhoeddi cynnwys digidol, gan gynnwys straeon a fideos, ar gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau eraill megis cylchlythyron ar e-bost.

Dwedodd Leighton Andrews, a oedd yn aelod cynulliad o 2003 i 2016, fod y cyfryngau Cymreig yn "dameidiog" a bydd t卯m o newyddiadurwyr yn gweithio i'r Cynulliad yn ychwanegu at y sylw mae'r sefydliad yn ei gael gan y wasg.

Dywedodd Yr Athro Andrews: "Mae'r Cynulliad yn cynhyrchu llwyth o gynnwys bob dydd, ond nid o reidrwydd mewn ffyrdd deniadol. Rydym ni am i'r Cynulliad ystyried a oes modd defnyddio sgiliau newyddiadurol i drosglwyddo'r deunydd yna i'r bobl, a'i rhannu.

"Bydd hwn yn ychwanegu at y cyfryngau sy'n bodoli yn barod yng Nghymru. Rydym yn croesawu cryfderau'r cyfryngau sy'n bodoli yng Nghymru, ond mae hefyd yn wynebu heriau.

"Ry' ni eisiau ychwanegu at yr hyn sydd yn bodoli yn barod."

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r argymhellion yn ymateb i doriadau yn y wasg draddodiadol, medd yr adroddiad

Er yr argymhelliad i'r Cynulliad gyflogi newyddiadurwyr yn uniongyrchol, gwadodd Leighton Andrews bod y trefniant yn fesur propaganda i'r sefydliad.

"Dydyn ni ddim yn s么n am y llywodraeth, rydym yn trafod y Cynulliad Cenedlaethol sydd yn fforwm democrataidd ar gyfer Cymru gyfan. Ac mae'r pethau hynny yn wahanol.

"Dydyn ni ddim yn awgrymu rhyw fath o gylchgrawn Pravda fel oedd yn bodoli yn sefydliadau Sofietaidd y gorffennol. Mae hwn yn canolbwyntio ar y fforwm democrataidd yn cysylltu yn uniongyrchol gyda phobl Cymru."

Mae'r adroddiad yn cyfeirio at ostyngiad gwerthiant papurau newydd Cymreig, a phenderfyniad y Daily Post i beidio parhau i gyflogi gohebydd yn y Senedd.

Prif argymhellion y tasglu:

  • Y Cynulliad yn ystyried ei hun i fod yn "gynhyrchydd cynnwys"

  • Cyflogi golygydd diduedd a th卯m o newyddiadurwyr i gynhyrchu cynnwys digidol

  • Newyddion a gwybodaeth sy'n fwy perthnasol i gymunedau Cymru

  • Gwefan, Senedd TV a sianeli cyfryngau cymdeithasol sydd yn canolbwyntio ar anghenion y defnyddiwr

  • Galluogi gwylwyr Senedd TV i lawrlwytho clipiau o ddarllediadau

  • Defnyddio opsiynau ar wah芒n i ddatganiadau i'r wasg, megis mapiau, blogiau a graffeg

  • Cyhoeddi adroddiadau pwyllgorau gyda phroses cywir o gynllunio, golygu ac amserlennu.

Cafodd y gwaith ei gomisiynu gan y llywydd Elin Jones, sydd wedi croesawu'r casgliadau.

"Maen nhw wedi rhoi cynigion ymarferol i ni sy'n procio'r meddwl, i gryfhau'r ffordd yr ydym yn cyfathrebu wrth i ni geisio dod yn senedd agored, ddigidol sy'n ymgysylltu 芒 holl bobl Cymru", meddai.

"Rydym yn nes谩u at 20fed pen-blwydd y Cynulliad, sy'n gyfle i adnewyddu'r ffordd y mae'r Cynulliad yn cyflwyno ei hun, ac adeiladu deialog ddofn a dilys gyda phobl Cymru.

"Edrychaf ymlaen at drafod yr adroddiad, a sut yr ydym yn ei symud ymlaen, gyda Chomisiynwyr y Cynulliad."

Disgrifiad,

Mae Huw Marshall yn amau a fydd pobl yn ymddiried yng nghynnyrch y newyddiadurwyr

Ond mae'r argymhelliad i drin y cynulliad fel "cynhyrchydd cynnwys" wedi'i feirniadu gan yr ymgynghorydd digidol Huw Marshall, sydd hefyd yn paratoi i lansio gwefan newyddion annibynnol newydd.

Dwedodd y byddai defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol yn amheus am gynnwys o sefydliad gwleidyddol.

"Mewn egwyddor mae'n syniad da, ond dydy pobl ddim yn mynd i'w dderbyn ac fe fyddan nhw'n ei ystyried i fod yn bropaganda. Yn anffodus, dyna fydd ymateb pobl.

"Dyna pam mae angen y llwyfannau a'r lleisiau annibynnol yn rhannu'r wybodaeth."