麻豆官网首页入口

Beirniadu 'anwireddau' erthygl Guardian ar addysg Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
The Guardian
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd yr erthygl ei chyhoeddi yn y papur ac ar-lein ddydd Mawrth

Mae'r ysgrifennydd addysg wedi cyhuddo papur The Guardian o roi "camargraff ddifrifol" o addysg Gymraeg.

Fe gyhoeddodd y papur ddydd Mawrth am y ffrae am Ysgol Llangennech yn Sir G芒r, gafodd ei throi yn ysgol cyfrwng Cymraeg.

Mae'r darn yn canolbwyntio ar safbwyntiau rhieni oedd yn gwrthwynebu'r newid.

Dywedodd Kirsty Williams wrth y Cynulliad bod yr erthygl yn llawn "anwireddau".

Mae'r 麻豆官网首页入口 wedi gofyn am ymateb The Guardian.

'Newyddiaduriaeth honedig'

Roedd Ms Williams yn siarad wedi i AC Plaid Cymru, Simon Thomas, feirniadu'r papur a gofyn i'r ysgrifennydd ymyrryd.

Dywedodd Ms Williams wrth y Senedd ei bod wedi ei "digalonni gan y pennawd camarweiniol a'r anwireddau sy'n frith yn y darn o newyddiaduriaeth honedig yma".

Ychwanegodd: "Mae'n siomedig iawn ac yn rhoi camargraff ddifrifol o'r hyn sy'n digwydd yn y gymuned arbennig hon, ac uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg."

Fe ddywedodd Ms Williams hefyd y byddai'r llywodraeth yn ceisio "cywiro a rhoi'r argraff gywir" o'r system addysg yng Nghymru "pan fo materion am yr iaith yn codi".

Mwy am ffrae Ysgol Llangennech

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu rhai rheini yn protestio yn Llangennech yn erbyn newid statws ysgol y pentref i un cyfrwng Cymraeg

Roedd ymateb chwyrn i'r erthygl ar Twitter, gyda'r cyn-ysgrifennydd addysg, Leighton Andrews, ymysg y beirniaid.

Dywedodd ei fod yn "siomedig iawn" ag agwedd The Guardian, a bod hi'n "nodweddiadol" bod adran addysg y cyhoeddiad "ond yn edrych ar Gymru ac addysg Gymraeg pan mae'n synhwyro bod 'na ffrae".

Ymhlith y beirniaid eraill oedd dau o gyfranwyr The Guardian, Rhiannon Cosslett ac Elena Cresci.

Dywedodd Ms Cosslett ei bod wedi'i "digalonni gan ba mor ragfarnllyd yw'r erthygl", gan ychwanegu ei bod yn dangos "grym y lobi gwrth-Gymraeg".

Fe ddywedodd Ms Cresci ei bod hi "ddim yn hapus". Mae'r ddwy yn bwriadu cwyno i un o olygyddion y cyhoeddiad.

Mwy o'r ymateb ar Twitter

Ffynhonnell y llun, Twitter
Ffynhonnell y llun, Twitter
Ffynhonnell y llun, Twitter

Mae'r erthygl yn trafod effaith addysg Gymraeg ar blant o deuluoedd di-Gymraeg ac yn dweud bod "cael eich trwytho i mewn i ddosbarth lle dydych methu cyfathrebu neu ddeall yn medru bod yn brofiad brawychus a diflas" i rai disgyblion.

Daw rhan o'r dystiolaeth am gyfer y darn o adroddiad o 2009 gan elusen Achub y Plant.

Mae'r elusen wedi egluro nad ydy'r sylwadau hynny'n s么n am addysg Gymraeg yn benodol.

"Daw'r darn o ganllaw yn datgan pwysigrwydd ieithoedd lleiafrifol mewn addysg", .

Ychwanegodd mai bwriad y canllaw oedd "helpu'r rheiny mewn gwledydd sy'n datblygu, yn rhanbarth Asia/M么r Tawel, i ddatblygu gwasanaethau addysgol amlieithog effeithiol".

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru Fyw wedi gofyn i'r Guardian am ymateb i'r feirniadaeth.