Pobl ifanc Cymru'n 'ansicr yngl欧n ag effaith Brexit'

  • Awdur, Craig Duggan
  • Swydd, Gohebydd 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae pobl ifanc yng Nghymru yn parhau i fod yn ansicr yngl欧n ag effaith Brexit ar eu bywydau, yn 么l ymchwil newydd gan staff ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ond mae'r canfyddiadau yn dweud eu bod yn benderfynol o'i wynebu gydag agwedd bositif.

Cafodd yr ymchwil ei gynnal gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) a Phrifysgol Aberystwyth, ac roedd yn rhan o brosiect ehangach gyda Phrifysgol Caeredin i ystyried Addysg, Iaith a Hunaniaeth.

Fe aeth yr ymchwilwyr i ysgolion ar draws Cymru gan siarad gyda mwy na 40 o bobl ifanc yn eu harddegau.

Hefyd, fe wnaethon nhw recordio sgyrsiau gyda phobl ifanc ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mhencoed.

Canfyddiadau

Fe wnaethon nhw ganfod fod pobl ifanc yn teimlo'n rhwystredig na chawson nhw lais yn y refferendwm.

Bydd canlyniadau'r ymchwil yn cael eu cyflwyno mewn papur mewn cynhadledd yn Llundain ddydd Iau.

Disgrifiad o'r fideo, Dr Elin Royles a Dyfan Powel yn trafod canfyddiadau'r ymchwil

Roedd yr ymchwilwyr, Dyfan Powel a'r Dr Elin Royles o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, wedi canfod fod y bobl ifanc ar y cyfan yn derbyn canlyniad y refferendwm.

Er hynny, maen nhw'n parhau'n ansicr yngl欧n ag effaith bosib y bleidlais arnyn nhw - ac yn poeni'n arbennig y gallai gael effaith negyddol ar eu gyrfa ym maes addysg ac yn y byd gwaith.

Mae rhai pobl ifanc yn rhoi'r bai ar y genhedlaeth h欧n, oherwydd canfyddiad eu bod nhw wedi penderfynu canlyniad y refferendwm heb ystyried y to iau.

'Rhwystredigaeth'

Dywedodd Dr Royles: "Mae rhwystredigaeth ymhlith pobl ifanc nad oedd eu llais nhw wedi cael ei glywed yn y refferendwm.

"Mae teimlad o fwlch rhwng y cenedlaethau - bod pobl h欧n ddim wedi meddwl digon am bobl ifanc wrth bleidleisio, teimlad fod Brexit yn benderfyniad mor fawr, ac nad oedd llais pobl ifanc wedi cael digon o sylw."

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth 73% o bobl ifanc bleidleisio i aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd

Bron i flwyddyn ers y bleidlais, dywedodd rhai pobl ifanc eu bod yn teimlo bod canlyniad y refferendwm wedi codi cwestiynau yngl欧n 芒 hunaniaeth a chymdeithas Gymreig, gyda'r canlyniad yn cael ei ddehongli fel pleidlais yn erbyn ymfudwyr.

"Mae rhai pobl ifanc wedi bod yn cwestiynu beth yw natur Cymreictod, a natur hunaniaeth Gymreig yn yr ystyr eu bod nhw'n gweld y bleidlais Brexit fel pleidlais anoddefgar, ac maen nhw wedi siomi gyda hynny gan eu bod nhw'n cysylltu Cymreictod efo bod yn oddefgar," meddai Dr Royles.

'Ymateb positif'

Roedd pobl ifanc eraill gafodd eu holi yn llawer mwy cadarnhaol yngl欧n 芒'r dyfodol, ac yn gweld Brexit fel cyfle i ehangu cysylltiadau Prydain gyda rhannau eraill o'r byd, gan ddweud bod Prydain yn ddigon cryf i sefyll ar ei phen ei hun y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

Fe wnaeth 73% o bobl rhwng 18 a 24 oed bleidleisio i aros yn rhan o'r UE yn y refferendwm.

"Mae digon o barch gan bobl ifanc tuag at y bleidlais Brexit - dy'n nhw ddim yn cwestiynu dilysrwydd y canlyniad mewn unrhyw ffordd," meddai Mr Powel.

"Maen nhw'n bragmataidd ac yn weddol bositif yn eu hymateb nhw ac yn edrych ymlaen at y dyfodol a'r trafodaethau. Maen nhw'n gobeithio y bydd 'na fudd yn dod o Brexit."

Cynnydd mewn diddordeb

Mae'r ymchwil yn awgrymu hefyd bod pobl ifanc yn ymddiddori llawer mwy mewn gwleidyddiaeth ers y refferendwm.

Yn 么l Dr Royles cafodd hyn ei danlinellu gan gynnydd yng nghanran y bobl ifanc wnaeth bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol diweddar.

Ond, mae'n ymddangos fod y ganran yn is na'r hyn gafodd ei awgrymu gan rai yn syth ar 么l yr etholiad.

Roedd ambell sylwebydd wedi awgrymu y gallai'r ganran o bobl 18-30 oed wnaeth fwrw pleidlais fod dros 70%.

Ers hynny, mae arolwg gan YouGov yn awgrymu bod y ganran yn nes at 60%.