麻豆官网首页入口

Eluned Morgan: Dryswch Brexit 'meddal' a 'chaled'

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae AC Llafur Eluned Morgan wedi dweud y dylen ni stopio siarad am yr UE mewn termau nad yw pobl yn eu deall

Mae aelod blaenllaw o'r blaid Lafur, sy'n cefnogi'r Undeb Ewropeaidd, wedi dweud nad yw'r cyhoedd ar y cyfan yn deall y gwahaniaeth rhwng Brexit "caled" a Brexit "meddal".

Mae'r cyn Aelod Senedd Ewropeaidd sydd bellach yn Aelod Cynulliad, Eluned Morgan wedi gwneud y sylwadau union flwyddyn ers pleidlais y refferendwm ar adael yr UE.

Mae Brexit meddal a chaled yn dermau sy'n cael eu defnyddio i ddisgrifio'r berthynas gyda marchnad sengl yr UE yn dilyn ymadawiad y DU.

Mae ASE UKIP, Nathan Gill wedi rhybuddio yn erbyn Brexit "twyllodrus" gan ddweud mai'r unig ddau opsiwn yw "aros neu adael".

Yn y cyfamser, mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wedi dweud bod ei deulu wedi "cael eu cam-drin" ar 么l iddo benderfynu cefnogi gadael yr UE.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Andrew RT Davies yn ymgyrchu i adael y UE

Ar 23 Mehefin llynedd fe wnaeth 854,572 o bobl yng Nghymru bleidleisio i adael yr UE, 52.5% o'r rheiny bleidleisiodd, o'i gymharu gyda 772,347, 47.5%, oedd yn awyddus i aros yn rhan o'r UE.

Yn dilyn cwestiwn ar sut y dylai pleidiau wnaeth ymgyrchu i aros yn rhan o'r UE ddysgu o'r refferendwm, dywedodd Ms Morgan: "Dylen ni stopio siarad am yr UE mewn termau nad yw pobl yn eu deall."

"Does dim llawer o bobl yn deall y gwahaniaeth rhwng Brexit meddal a chaled, a nhw yw'r arbenigwyr."

Caled a meddal

Mae'r term Brexit meddal weithiau yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r DU yn cynnal rhyw fath o berthynas gyda'r farchnad sengl gan dderbyn hawliau ar ryddid i bobl symud.

Mae Brexit caled yn awgrymu gadael y farchnad sengl yn gyfan gwbl.

Does dim diffiniad pendant i un o'r termau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Nathan Gill yn anghytuno ac yn credu bod pobl yn deall beth yw ystyr Brexit

Dywedodd Mr Gill wrth 麻豆官网首页入口 Cymru: "Does dim ond un math o Brexit, un ai aros neu adael."

Dywedodd bod rhaid i'r DU adael y farchnad sengl ac undeb y tollau "neu byddwn ni ddim yn gadael, mae'n rhaid iddo fod y ffordd yna".

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni roi ychydig o glod i'r cyhoedd, maen nhw'n deall y pethau yma."

Dywedodd y buasai unrhyw beth arall yn "dwyllodrus".