麻豆官网首页入口

Swyddog yn amddiffyn gwariant 拢9m ar gynllun Cylchffordd

  • Cyhoeddwyd
Cylchffordd CymruFfynhonnell y llun, Cylchffordd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae datblygwyr yn dweud gallai'r prosiect sydd werth 拢425m ger Glyn Ebwy greu 6,000 o swyddi

Mae un o brif weision sifil Cymru wedi amddiffyn y gwariant o 拢9m gan Lywodraeth Cymru ar gynlluniau i adeiladu trac rasio ym Mlaenau Gwent.

Dywedodd James Price, sy'n gyfrifol am adran economi'r llywodraeth, bod canlyniad y buddsoddiad werth yr arian.

Cafodd y cyllid ei roi i ddatblygwyr sydd eisiau adeiladu Cylchffordd Cymru ger Glyn Ebwy.

'N么l ym mis Ebrill dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru bod "diffygion sylweddol" yn y ffordd y deliodd y llywodraeth 芒'r arian.

Disgrifiad,

Beth yw cynllun trac rasio Glyn Ebwy?

Tra'n rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynullliad, dywedodd Mr Price y gallai'r prosiect gael "effaith fawr" ar yr economi, ond ei fod hefyd yn "risg posib sylweddol".

Gwrthododd yr honiad bod "diffygion" yn ei adran, gan ddweud eu bod "wedi dysgu gwersi".

Dywedodd bod 拢55m wedi ei wario ar ddatblygu'r cynlluniau - 拢9.2m o'r ffigwr hwnnw mewn grantiau a benthyciadau gan Lywodraeth Cymru.

"Dwi wedi cael fy mherswadio ein bod wedi llwyddo i gael gwerth am arian am yr hyn rydyn ni wedi ei gael, sef prosiect sydd yn barod - os yw cyllid ar gael - i gael ei ddelifro", meddai.

Penderfynu dydd Mawrth

Daw ymddangosiad Mr Price wedi i ffrae godi pan wnaeth dau swyddog dynnu 'n么l o roi tystiolaeth mewn sesiwn flaenorol.

Fe fydd cabinet Llywodraeth Cymru yn trafod dydd Mawrth os byddan nhw'n gwarantu tua hanner y 拢425m y byddai Cylchffordd Cymru yn ei gostio.

Mae datblygwyr yn dweud gallai'r prosiect greu 6,000 o swyddi yn un o'r llefydd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.