Tribiwnlys cyflogaeth yn dyfarnu o blaid Nathan Gill

Disgrifiad o'r llun, Roedd cyn-arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, wedi cyflogi John Atkinson fel rheolwr swyddfa

Mae cyn-weithiwr yn swyddfa'r Aelod Seneddol Ewropeaidd, Nathan Gill, wedi methu profi iddo gael ei ddiswyddo'n annheg.

Cafodd John Atkinson, ar y cyd 芒 holl staff Mr Gill, ei ddiswyddo yn Ebrill 2016.

Fe gafodd rhai o'i gydweithwyr eu hailgyflogi, ond fe hawliodd Mr Atkinson iddo beidio cael cynnig swydd gan ei fod yn aros am lawdriniaeth am glun newydd.

Ond fe wrthodwyd hynny mewn tribiwnlys yng Nghaerdydd ddydd Gwener.

'Dim i'w wneud 芒'i anabledd'

Yn y gwrandawiad, dywedodd y Barnwr Claire Sharp: "Doedd y rheswm pam gollodd Mr Atkinson y swydd ddim byd i'w wneud 芒'i anabledd.

"Roedd hyn i'w wneud 芒'r sefyllfa wleidyddol a barn Mr Gill y byddai'n well iddo fod yr unig ASE heb staff."

Yn gynharach clywodd y tribiwnlys bod Mr Gill yn bryderus adeg etholiadau'r Cynulliad yngl欧n 芒'r posibilrwydd y gallai Olaf - corff sydd yn ymchwilio i dwyll yn yr Undeb Ewropeaidd - ymchwilio i'w faterion ef a'i staff.

Roedd yr ASE yn awyddus i osgoi unrhyw ddryswch rhwng ymgyrchu gwleidyddol a chyllido gan yr Undeb Ewropeaidd.

Disgrifiad o'r llun, Mae Mr Gill yn cynrychioli Cymru yn Ewrop yn Senedd-dai Ewrop ym Mrwsel a Strasbourg

Cafodd Mr Gill ei ethol i'r Cynulliad ar ran UKIP ac mae erbyn hyn yn Aelod Cynulliad annibynnol. Fe ddywedodd ei fod am roi'r gorau i fod yn ASE ond newidiodd ei feddwl am "nifer fawr o resymau".

Fe benderfynodd gadw ei seddi yn Senedd Ewrop ac yn y Cynulliad.

Yn dilyn y dyfarniad dywedodd Mr Gill: "Doeddwn i ddim yn gyflogwr gwael. Rwy'n gwerthfawrogi fy staff ac yn falch iawn o fod yn rheolwr teg a gonest.

"Rydw i'n falch iawn i mi gael fy nghyfiawnhau yn llwyr gan y penderfyniad heddiw, ond serch hynny rwy'n siomedig fod teclyn hollbwysig i amddiffyn hawliau gweithwyr wedi cael ei gamddefnyddio yn sinigaidd fel hyn."