麻豆官网首页入口

'Angen gweithredu'n gynt' i dorri allyriadau carbon

  • Cyhoeddwyd
Ceir trydan

Mae'r Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd wedi dweud bod angen gweithredu'n llawer cyflymach i dorri allyriadau carbon, yn dilyn rhybuddion y bydd targedau yn cael eu methu.

Bydd galw ar gyrff cyhoeddus i ddangos arweiniad, ac anelu at fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Fe fydd disgwyl iddyn nhw leihau allyriadau drwy edrych ar eu prosesau caffael a'u defnydd o dir, ynni a thrafnidiaeth.

Dywedodd Lesley Griffiths wrth 麻豆官网首页入口 Cymru ei bod hi'n awyddus i annog arfer da, ond y gallai ystyried cyflwyno cosbau "maes o law".

Daw hyn lai nag wythnos ers i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd - sy'n cynghori llywodraeth Prydain a'r gwledydd datganoledig - rybuddio na fyddai nod arall i dorri allyriadau Cymru 40% o lefelau 1990 erbyn 2020 yn cael ei gyrraedd.

Yn 2015 roedd allyriadau Cymru 20% yn llai na lefelau 1990, o'i gymharu 芒 38% ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mynnodd Ms Griffiths na fyddai hi'n newid nac yn cael gwared ar y targed am "na fyddai hynny yn dangos arweiniad da".

"Gyda thair blynedd yn weddill dwi eisiau sicrhau ein bod hi'n cyrraedd y targed ond mae angen i ni weithio yn llawer cyflymach a dyma pam dwi'n holi barn heddiw," meddai.

Mae'r llywodraeth yn gofyn am ymateb gan gyrff cyhoeddus yngl欧n 芒'r ffyrdd gorau o sicrhau eu bod yn garbon niwtral erbyn 2030, gan gynnwys a ddylai targedau interim gael eu cyflwyno a sut y dylai cynnydd gael ei fesur a'i fonitro.

Y sector cyhoeddus

Bydd 拢2m y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi mewn adnabod a chefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni o fewn y sector cyhoeddus.

Mae allyriadau o gyrff cyhoeddus - gan gynnwys ysgolion, ysbytai a chynghorau lleol - yn cyfri am ond 1% o 么l troed carbon Cymru.

Diwydiannau trwm a chynhyrchwyr ynni sy'n rhyddhau'r mwyaf o nwyon t欧 gwydr, tra bod arbenigwyr newid hinsawdd yn dadlau bod gan fyd amaeth a'r cyhoedd yn eu cartrefi a'u ceir r么l bwysig i'w chwarae hefyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Anna Jones mai'r gobaith yw y bydd gweddill y sector cyhoeddus yn dilyn esiampl CNC

Er hynny, y ddadl dros ganolbwyntio ar y sector cyhoeddus yw ei fod "mewn sefyllfa unigryw i arbrofi a chynnig esiamplau o arfer da sy'n gallu dylanwadu allyriadau yn fwy eang," yn 么l Lesley Griffiths.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) - y corff mwyaf i gael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru - wedi bod yn cynnal ymchwil yngl欧n 芒'i 么l troed carbon, ac mae bellach yn cyflwyno nifer o brosiectau arddangos allai gael eu hailadrodd ar draws y sector cyhoeddus.

Ymysg y prosiectau mae prynu ceir trydan fel cerbydau'r cwmni a chyflwyno pwyntiau gwefru yn eu safleoedd.

Mae 'na waith yn digwydd hefyd i adfer tiroedd mawn ar yst芒d y sefydliad, sy'n gallu dal carbon a'i storio yn y ddaear.

'Dysgu gan CNC'

Dywedodd Anna Jones, un o reolwyr prosiect Carbon Positif CNC wrth 麻豆官网首页入口 Cymru: "Mae'r prosiect yn edrych ar allyriadau ar draws ein hystrad - o'r adeiladau, trafnidiaeth a'r nwyddau da ni'n eu prynu.

"Ond hefyd y carbon sy'n cael ei storio yn ein cynefinoedd.

"Y gobaith yw y bydd y sector cyhoeddus yn ehangach yn gallu dysgu o hynny a defnyddio negeseuon yr ymchwil yn eu gwaith eu hunain."