麻豆官网首页入口

Cynllun i gynyddu addysg Gymraeg dros 30% erbyn 2031

  • Cyhoeddwyd
Adroddiad Cymraeg 2050

Mae Llywodraeth Cymru'n cynllunio i weld cynnydd o fwy na thraean yn addysg cyfrwng Cymraeg dros y 14 mlynedd nesaf.

Bron union flwyddyn ers cyhoeddi targed i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth er mwyn cyrraedd y nod.

Dywedodd y gweinidog sy'n gyfrifiol am yr iaith ei fod am "symud y pwyslais o reoleiddio i hybu a hyrwyddo" y Gymraeg.

Mae Plaid Cymru wedi rhoi "croeso gofalus" i'r cynlluniau, tra bod y Ceidwadwyr yn rhybuddio bod rhaid i gymunedau fod yn rhan o unrhyw newidiadau.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod y cynllun "ymhell o fod yn ddigonol er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y gweinidog sy'n gyfrifol am yr iaith, Alun Davies, bod y strategaeth ar gyfer "Cymry Cymraeg a Chymry di-Gymraeg, gyda'n gilydd".

Yn 么l y ffigyrau diweddaraf, mae 22% o blant saith mlwydd oed yn cael addysg cyfrwng Cymraeg. Bwriad gweinidogion yw cynyddu hynny i 30% erbyn 2031 ac yna i 40% erbyn 2050.

Mae'r llywodraeth hefyd am greu 150 yn fwy o grwpiau meithrin cyfrwng Cymraeg dros y degawd nesaf.

Fel rhan o'r cynlluniau, fe fydd disgyblion yn ysgolion cyfrwng Saesneg yn treulio mwy o amser yn dysgu Cymraeg, ond ni fydd y manylion yn cael eu cyflwyno nes bod y cwricwlwm newydd yn cael ei orffen.

Bwriad y llywodraeth yw hyfforddi 2,800 o athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg ychwanegol erbyn 2031 i ddiwallu'r cynnydd mewn galw.

Mae'r strategaeth hefyd yn cynnwys targed i gynyddu canran y boblogaeth sydd yn siarad Cymraeg bob dydd o 10% i 20% erbyn 2050.

Cynlluniau i ddeddfu

Wrth lansio'r strategaeth yn y Senedd, dywedodd gweinidog Llywodraeth Cymru 芒 chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Alun Davies, bod yr iaith yn fwy na sgil cyfathrebu ac yn "rhan hanfodol o'n diwylliant a hanes ein cenedl ni".

Dywedodd Mr Davies wrth ACau fod y strategaeth yn gynllun i "Gymry Cymraeg a Chymry di-Gymraeg, gyda'n gilydd".

Ychwanegodd y bydd e'n cyhoeddi papur gwyn a fyddai'n cynnwys cynlluniau er mwyn deddfu ar y pwnc. Dywedodd y gweinidog mai'r bwriad yw cyflwyno cynigion deddfwriaethol yn y flwyddyn newydd.

"Dwi eisiau symud y pwyslais o reoleiddio i hybu a hyrwyddo," meddai. "A dwi eisiau symud y pwyslais i sgwrs genedlaethol am y Gymraeg sydd yn bositif.

"Yn aml iawn ry'n ni'n trafod strategaethau Cymraeg dim ond yn y Gymraeg ond ma' hwn yn strategaeth i Gymru - Cymry Cymraeg a Chymry di-Gymraeg, gyda'n gilydd.

"Mae'n bwysig gweld y Gymraeg fel sgil gyfathrebu...ond hefyd mae rhaid bod y Gymraeg yn fwy na hynny, fwy na dim ond sgil cyfathrebu da chi'n defnyddio pan bod angen yn y gwaith.

"Mae'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n diwylliant a hanes ein cenedl ni."

'Arweiniad clir'

O ystyried ei ddatganiad y byddai'r llywodraeth yn arwain drwy esiampl yn y maes, cafodd y gweinidog ei herio gan Si芒n Gwenllian o Blaid Cymru am beidio ail-leoli swyddi llywodraethol mewn ardaloedd lle y mae'r Gymraeg ar ei chryfaf.

Dywedodd yr AC dros Arfon: "Mi fyddai gweld arweiniad clir felly o ran swyddi a'r math o swyddi o ansawdd 'dan ni eisiau gweld yn y br枚ydd Cymraeg yn arwydd clir gan eich llywodraeth chi o'ch awydd chi i ddangos y ffordd a chreu esiampl.

"Fe ellid wedi sefydlu'r awdurdod cyllid newydd yn y gorllewin ond ni wnaed hynny," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe heriodd Si芒n Gwenllian y gweinidog am y penderfyniad i beidio symud swyddi i ardaloedd pennaf Gymraeg eu hiaith

Cytunodd Mr Davies bod "rhaid i'r llywodraeth sicrhau bod ni'n buddsoddi hefyd yng nghymunedau."

"Rydych chi wedi gweld polisi clir y llywodraeth yma i symud swyddi y tu fas i Gaerdydd a symud swyddi i ardaloedd gwahanol", meddai.

"Efallai bod y cyrff i gyd ddim yn mynd i'r lleoedd fase chi wedi dewis... ond mae'r banc datblygu wedi mynd i'r gogledd, mae trafnidiaeth wedi mynd i'r cymoedd ac mae'r awdurdod cyllid hefyd wedi symud."

'Perswadio cymunedau'

Dywedodd y Ceidwadwyr bod yn rhaid cyflwyno newidiadau i'r system addysg mewn ffordd sy'n "mynd 芒 chymunedau lleol gyda nhw".

"Dydy perthynas pobl Cymru gyda'r iaith ddim yr un fath ym mhob man, ac mae llwyddiant y newidiadau'n ddibynnol ar berswadio cymunedau ac unigolion gwahanol pam fod dwyieithrwydd mor werthfawr," meddai eu llefarydd, Suzy Davies AC.

Dywedodd llefarydd ar ran UKIP bod yn rhaid "rhoi buddiannau rhieni yn gyntaf" er mwyn peidio "digio cymunedau uniaith Saesneg a rhwystro'r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050."

Disgrifiad,

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn croesawu strategaeth y Llywodraeth

Yn 么l Cymdeithas yr Iaith, dydy'r strategaeth ddim yn mynd ddigon pell.

Ddydd Mawrth, bu'r mudiad yn cyflwyno deiseb gyda dros 2,000 o lofnodion i annog Cyngor Caerdydd i agor 10 ysgol Gymraeg newydd yn y brifddinas dros y pum mlynedd nesa'.

"Mae cynnwys strategaeth iaith y Llywodraeth ymhell o fod yn ddigonol er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg", meddai eu llefarydd, Toni Schiavone.

"Yn wir, mae'r targedau yn is nag yn y strategaeth y cyhoeddon nhw saith mlynedd yn 么l. Mae'r gostyngiad yn y targedau hyn yn codi cwestiynau mawr am awydd y Llywodraeth i gyrraedd y targed.

"Mae'n syndod nad oes yr un s么n am ymrwymiad clir y Gweinidog a'r Prif Weinidog i ddileu Cymraeg ail iaith a sefydlu un cymhwyster Cymraeg yn ei le erbyn 2021."

Disgrifiad,

Cymdeithas yr Iaith yn galw am 10 ysgol Cymraeg newydd i Gaerdydd

Dywedodd cadeirydd Rhieni Dros Addysg Gymraeg, Lynne Davies, bod y mudiad yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn "cydnabod yr angen" i "gynyddu seilwaith yr ysgolion cyfrwng Cymraeg".

Ond ychwanegodd bod yn rhaid i'r llywodraeth sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithredu hefyd.

"Mae angen pontio'r bwlch rhwng dyhead a gwireddu'r dyhead hwnnw", meddai.

"Gweithio mewn partneriaeth yw'r allwedd, felly gadewch i ni weld pawb yn ymroi o ddifrif i gyflawni hyn yn y blynyddoedd nesaf."