Rhybudd i'r llywodraeth am effaith Brexit ar Gymru

Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU "wneud mwy" wrth ymgymryd 芒 Brexit, a dod o hyd i ffyrdd o warchod buddiannau Cymru yn y trafodaethau, yn 么l un o bwyllgorau T欧'r Arglwyddi.

Dywedodd adroddiad ar Brexit a datganoli gan Bwyllgor yr UE y dylai gweinidogion yng Nghymru a San Steffan weithio'n adeiladol.

Mae'r pwyllgor wedi rhybuddio am y peryglon posibl sy'n wynebu amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Mae gweinidogion Cymru yn annog gweinidogion y DU i weithredu.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud na fydd y Mesur Diddymu yn "cymryd pwerau gan y gweinyddiaethau datganoledig".

Amaeth mewn perygl

Mae adroddiad y pwyllgor, sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mercher, yn dweud y gallai unrhyw golledion o arian yr UE roi'r byd amaeth yng Nghymru mewn perygl - ac y gallai effeithio ar y diwydiant gweithgynhyrchu hefyd.

Mae'r Arglwyddi hefyd wedi dweud fod economi Cymru yn ddibynnol iawn ar allforion i'r UE.

Mae Cymru'n gweithredu ar ormodedd masnachol o 拢2.25bn gyda'r UE, o'i gymharu 芒 diffyg masnachol o 拢2.3bn gyda gwledydd y tu allan i'r UE.

Disgrifiad o'r llun, Mae gweinidogion Cymru yn annog gweinidogion y DU i weithredu

Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu "pryder difrifol" y gallai cyllid yr UE ar gyfer y rhannau tlotaf o Gymru ddod i ben, wrth gyflwyno fformiwla sy'n llai hael, sy'n gysylltiedig 芒 phoblogaeth hytrach nag angen.

Dywed hefyd y dylai pwerau dros ffermio a gwarchod yr amgylchedd ddychwelyd o Frwsel i Gaerdydd yn hytrach na San Steffan, fel mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei wneud dros dro.

'Diogelu'r economi'

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi croesawu'r canfyddiadau, a dywedodd fod angen i Lywodraeth y DU "dynnu eu pennau o'r tywod".

"Fel noda'r adroddiad, rydym wedi ceisio dro ar 么l tro i gysylltu 芒 Llywodraeth y DU, ac wedi cyflwyno cynigion adeiladol ynghylch sut y gallwn ddarparu Brexit mewn ffordd sy'n anrhydeddu canlyniad y refferendwm, gan ddiogelu'r economi a pharchu datganoli," meddai.

"Rwyf unwaith eto yn eu hannog i ystyried o ddifrif ein papur polisi ar Brexit a Datganoli, sy'n cynnig cynllun ymarferol ar gyfer adnewyddu cyfansoddiadol mawr y DU."

'Brwydr am ymreolaeth Cymru'

Yn siarad ar raglen Post Cyntaf 麻豆官网首页入口 Radio Cymru fore Mercher, dywedodd Yr Arglwydd Elis Thomas na ddylai unrhyw bwerau sydd wedi'u datganoli i Gymru gael eu symud yn 么l i San Steffan, hyd yn oed dros dro, yn dilyn trafodaethau Brexit.

"Mae'r sefyllfa'n glir," meddai. "Mae unrhyw fater sydd wedi ei ddatganoli yn barod i Gaerdydd yn perthyn i ni.

"Dydi o ddim yn perthyn i gael ei lusgo 'n么l i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. S'dim angen 'dal' unrhyw beth yn Llundain.

"Nid mater o ryw fath o drafodaeth gyfansoddiadol theoretig ydi hon - 'da ni r诺an yng nghanol brwydr o ddifrif am ymreolaeth Cymru."

'Trafod ac ymgynghori'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod wedi gwneud yn "glir na fydd y Mesur Diddymu yn cymryd pwerau gan y gweinyddiaethau datganoledig".

"Yn hytrach, i amddiffyn marchnad fewnol y DU, bydd rhai pwerau sy'n cael eu trosglwyddo i mewn i gyfraith y DU yn cael ei ddal dros dro er mwyn trafod ac ymgynghori 芒'r gweinyddiaethau datganoledig," meddai.

"Fel mae Ysgrifennydd Brexit wedi gwneud yn glir, ein disgwyliad ni yw y bydd y broses yma yn cynyddu p诺er y llywodraethau datganoledig, ac rydyn ni wedi ymrwymo i gysylltu yn gadarnhaol a chynhyrchiol."