'Dim oedi pellach' ar drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe

Disgrifiad o'r llun, Fe ddylai Llywodraeth Prydain roi'r gorau i oedi cyn cyhoeddi'r penderfyniad ar drydaneiddio'r rheilffordd, medd Rob Stewart

Mae arweinydd Cyngor Abertawe wedi galw ar Lywodraeth Prydain i beidio ag oedi mwy cyn penderfynu ar drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart fod "methiant yr ysgrifennydd gwladol i frwydro cornel Cymru yn warthus".

Mae Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns wedi dweud y bydd y trenau diesel-drydanol diweddaraf yn dechrau rhedeg i Abertawe yn yr hydref, ond dydy e ddim wedi cadarnhau y bydd yr addewid ar drydaneiddio yn cael ei wireddu.

Mae adran drafnidiaeth San Steffan yn dweud ei bod hi'n buddsoddi 拢40bn o bunnoedd ar foderneiddio'r rheilffyrdd ac y bydd trydaneiddio'n digwydd lle mae hynny o fudd i deithwyr.

Mae disgwyl cadarnhad swyddogol cyn bo hir, ond mae 'na bryder na fydd y cynllun i drydaneiddio'r lein i Abertawe yn digwydd wedi'r cyfan.