麻豆官网首页入口

Cefnogi gorsaf drenau 拢30m yn nwyrain Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Artist's impressionFfynhonnell y llun, Cardiff Parkway Developments Ltd

Mae gorsaf drenau newydd a maes parcio gwerth 拢30m yn nwyrain Caerdydd wedi derbyn s锚l bendith gan Lywodraeth y DU.

Bydd yr orsaf newydd yn Llaneirwg yn gwasanaethu parc busnes yn ogystal 芒 32,000 o breswylwyr.

Bydd proses gynllunio swyddogol gan Gyngor Caerdydd yn dechrau ddydd Gwener.

Mae datblygwyr yn credu bydd y datblygiad yn lleihau taith person i ganol y ddinas o awr i tua chwe munud.

Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Chris Grayling AS, bydd yn "gweithio gyda hyrwyddwyr y cynllun wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau i'r cam nesaf".

Bydd gorsaf Llaneirwg yn cynnig:

  • Cysylltiadau cyflym i orsaf Caerdydd Canolog, gyda threnau yn cyrraedd mewn chwech i saith munud,

  • Potensial ar gyfer cysylltiad i Faes Awyr Caerdydd,

  • Llefydd parcio i 4,000 o geir fydd yn costio 拢5 y dydd,

  • Potensial i bobl ddefnyddio'r trenau i leihau'r prysurdeb yng nghanol y ddinas yn ystod digwyddiadau mawr,

  • Bydd trenau o Birmingham ac o harbwr Portsmouth yn gallu stopio yn yr orsaf, posib bydd tr锚n pob hanner awr o Lyn Ebwy,

  • Gobaith bydd trenau cyflym i Lundain yn stopio yno yn y dyfodol,

  • Cynlluniau i'w hychwanegu at fap Metro de Cymru, gyda thr锚n yn stopio ar Heol Casnewydd ar ei ffordd i ganol y ddinas,

  • Bydd yr orsaf yn cynnwys lle i adael beiciau, safle bysiau a safle tacsi.

Ffynhonnell y llun, Cardiff Parkway Developments Ltd

Mae'r datblygiad wedi dod yn sgil gwrthod y syniad o drydaneiddio'r brif lein rhwng Caerdydd ac Abertawe.

Mae disgwyl i'r orsaf gostio 拢17m, a'r maes parcio yn costio 拢12m, mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau yn 2020.

Dywedodd cyfarwyddwr Cardiff Parkway Developments, Andrew Roberts: "Rydym yn gobeithio dechrau ar y gwaith mewn blwyddyn.

"Mae 'na lawer o waith cynllunio a chaniat谩u, ond mae popeth yn edrych yn bositif."