Diddymu tollau pontydd Hafren erbyn diwedd 2018

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd y tollau ar bontydd Hafren rhwng Lloegr a Chymru yn cael eu diddymu erbyn diwedd 2018.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns y byddai'r penderfyniad yn cryfhau cysylltiadau rhwng y ddwy wlad ac yn hwb mawr i'r economi.

Mae'r tollau i ddod i mewn i Gymru - sydd hyd at 拢20 yn ddibynnol ar y cerbyd - wedi cael eu beirniadu gan yrwyr a busnesau ers peth amser.

Mae tua 25 miliwn o deithiau dros y ddwy bont bob blwyddyn.

Disgrifiad o'r sainAlun Cairns, Ysgrifennydd Cymru: "Bydd hyn yn hwb i economi Cymru"

"Bydd hyn yn darparu hwb mawr i economi de Cymru gyfan," meddai Mr Cairns.

"Rydyn ni oll yn gwybod ei fod yn creu traffig ar y ffordd mewn i Gymru. Rydyn ni oll yn gwybod bod angen cael gwared ar y tollau ers tro.

"Erbyn diwedd y flwyddyn nesaf bydd y tollau wedi mynd, ac mae'n addewid maniffesto wedi'i wireddu."

Ond mae prif weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi cyhuddo Mr Cairns o wneud y cyhoeddiad mewn "ymgais ofer" i geisio tynnu sylw oddi wrth y cyhoeddiad na fydd y rheilffordd i Abertawe yn cael ei drydaneiddio.

Ym maniffesto pob plaid

Roedd ymchwil gafodd ei gomisiynu gan Blaid Cymru wedi awgrymu y byddai cael gwared ar y tollau yn rhoi hwb o 拢100m i economi Cymru.

Consortiwm preifat sy'n berchen ar ac yn rhedeg y pontydd ar hyn o bryd, ond bydd yn dychwelyd i berchnogaeth Asiantaeth Priffyrdd Lloegr unwaith y bydd y gost o adeiladu'r ail bont, gafodd ei agor yn 1996, wedi'i ad-dalu.

Bydd gweinidogion yn cael gwared ar y tollau yn dilyn hynny.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r tollau wedi'u beirniadu gan yrwyr a busnesau ers peth amser

Roedd diddymu'r tollau wedi'i gynnwys ym maniffesto pob prif blaid ar gyfer yr etholiad cyffredinol eleni.

Dywedodd y Prif Weinidog Theresa May yn ystod yr ymgyrch y byddai cael gwared arnynt yn lleihau'r gost o wneud busnes rhwng Cymru a Lloegr yn sylweddol, ac yn helpu cefnogi undeb y Deyrnas Unedig.

Mae Phil Bell, cyfarwyddwr gweithredol cae ras Cas-gwent, wedi dweud y byddai dileu'r tollau yn rhoi hwb i fusnes.

"Mae gennym filiynau o bobl a fyddai o bosibl yn dod i'r cae rasio o ochr arall i'r bont," meddai wrth 麻豆官网首页入口 Cymru.

"Ar hyn o bryd mae tua 9% o'n cwsmeriaid yn dod o ardal Bryste, ac mae gennym tua 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn, felly rydym yn disgwyl gweld cynnydd sylweddol yn y nifer hwnnw."

'Rhyddhad'

Dywedodd AS Llafur Dwyrain Casnewydd, Jessica Morden, ei fod yn "rhyddhad, ar 么l blynyddoedd o bwysau, fod y llywodraeth Dor茂aidd wedi gwrando o'r diwedd".

"Am gyfnod rhy hir o lawer, mae teithwyr a busnesau yn Nwyrain Casnewydd a thu hwnt wedi gorfod dioddef y taliadau gormodol."

Fodd bynnag, rhybuddiodd AC Llafur Llanelli, Lee Waters y byddai diddymu'r tollau yn arwain at fwy o drafferthion i yrwyr oherwydd "bydd pawb yn disgwyl i fwy o bobl ddefnyddio eu ceir".

"Mae'r Adran Drafnidiaeth yn amcangyfrif - a does neb yn gwybod yn iawn - y bydd rhywle rhwng 12% ac 20% yn fwy o geir yn defnyddio'r ffordd," meddai.

"Mae hynny'n gynnydd sylweddol o draffig fydd yn creu tagfeydd ac oedi."