Mwy o alwadau ar UKIP i weithredu wedi sylw hiliol AC

Ffynhonnell y llun, UKIP

Disgrifiad o'r llun, Mae UKIP yn ymchwilio i sylwadau Michelle Brown

Byddai Aelod Cynulliad UKIP wnaeth ddefnyddio iaith hiliol wrth s么n am AS du wedi cael ei gwahardd o'r Blaid Geidwadol, yn 么l arweinydd y blaid yng Nghymru.

Mae Andrew RT Davies wedi ymuno 芒 gwleidyddion eraill i gondemnio sylwadau AC rhanbarth Gogledd Cymru, Michelle Brown, am AS Llafur, Chuka Umunna.

Mae cadeirydd UKIP wedi dweud y bydd ymchwiliad i ymddygiad Ms Brown.

Fe wnaeth Ms Brown ymddiheuro, gan ddweud bod ei hiaith yn "anaddas".

Galwad ff么n

Mae Ms Brown, wnaeth alw Mr Umunna yn "goconyt", hefyd wedi ei recordio yn defnyddio term sarhaus yn erbyn AS canol Stoke-on-Trent ar y pryd, Tristram Hunt.

Fe wnaeth Ms Brown y sylwadau mewn galwad ff么n yn Mai 2016 i Nigel Williams, oedd ar y pryd yn gweithio i Ms Brown fel uwch ymgynghorydd.

Fe gafodd Mr Williams ei ddiswyddo gan Ms Brown yn ddiweddar, ac mae UKIP yn dweud y byddan nhw hefyd yn cynnal ymchwiliad i Mr Williams am recordio'r sgwrs a'i ryddhau heb ganiat芒d.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe ddefnyddiodd Michelle Brown iaith hiliol wrth siarad am Aelod Seneddol Llafur, Chuka Umunna

Dywedodd Ms Brown mewn datganiad:" Y pwynt yr oeddwn yn ceisio ei wneud oedd oherwydd ei fraint a'i gyfoeth aruthrol does dim posib i Chuka Umunna ddeall mwy na minnau am y problemau y mae'r person du cyffredin yn wynebu yn y wlad yma, ac rwy'n sefyll yn bendant yn hynny o beth.

"Fodd bynnag rwy'n derbyn bod yr iaith a ddefnyddiais yn y sgwrs breifat yn anaddas ac rwy'n ymddiheuro i unrhyw un os wyf wedi creu loes.

"Cyn belled 芒'r iaith a ddefnyddiais am Mr Hunt, roedd yn sgwrs breifat ac roeddwn yn defnyddio iaith mae ffrindiau a chyd-weithwyr yn ei ddefnyddio wrth sgwrsio gyda'i gilydd."

'Cwbl annerbyniol'

Yn siarad ar raglen Sunday Supplement 麻豆官网首页入口 Radio Wales dywedodd Mr Davies: "Mae'r iaith yn gwbl annerbyniol ac mae'n druenus, yn ail ddegawd yr 21ain Ganrif, bod y math yna o iaith yn cael ei ddefnyddio gan bobl mewn swyddi cyhoeddus.

"O fy safbwynt i, pe bai'r person yna yn y Blaid Geidwadol, bydden nhw'n cael eu gwahardd."

Mae Mr Davies yn ymuno 芒 Llafur a Phlaid Cymru yn y Cynulliad, sydd eisoes wedi galw am weithredu ar y sylwadau.

Mae gr诺p Llafur yn y Cynulliad wedi condemnio'r "iaith cwbl warthus" gan ddweud y byddai "unrhyw beth llai na gwaharddiad yn syth yn arwydd o gymeradwyaeth o sylwadau hiliol Michelle Brown".

Mae Hannah Blethyn AC, sy'n cadeirio'r gr诺p, wedi ysgrifennu at Gomisiynydd Safonau'r Cynulliad yn galw am ymchwiliad yn syth.

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Mae'r hiliaeth yma yn adlewyrchu'n wael ar ein senedd - Cynulliad Cenedlaethol Cymru - a dyna pam y dylai ei phlaid weithredu ar hyn."

Disgrifiad o'r llun, Mae AC arall UKIP, Caroline Jones, wedi pellhau ei hun o sylwadau Ms Brown

Mae ail AC UKIP hefyd wedi pellhau ei hun o sylwadau Ms Brown.

Dywedodd Caroline Jones: "Dyw iaith anaddas ddim yn cael ei gymeradwyo gennyf fi nac unrhyw un arall yn y blaid."

Ddydd Sadwrn, dywedodd AC arall UKIP, David Rowlands ei fod yn "meddwl ein bod wedi rhoi iaith hiliol y tu 么l i ni fel plaid."