麻豆官网首页入口

ASE UKIP yn galw am ddiarddel Michelle Brown o'r blaid

  • Cyhoeddwyd
Michelle Brown

Mae Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP yng Nghymru wedi dweud y dylai Michelle Brown gael ei diarddel o'r blaid am sylwadau a wnaeth am AS Llafur.

Dywedodd UKIP eu bod yn ymchwilio i'r mater, wedi i recordiad ddod i'r amlwg yn dangos Ms Brown yn defnyddio term hiliol yn erbyn Chuka Umunna mewn galwad ff么n ym mis Mai 2016.

Ond mynnodd Nathan Gill, sydd hefyd yn eistedd fel AC annibynnol, y dylai'r blaid gymryd camau pendant yn dilyn y "sylwadau afiach".

Mae UKIP wedi cael cais am sylw.

'Dim lle i sylwadau hiliol'

Dywedodd Mr Gill wrth 麻豆官网首页入口 Cymru ei fod hefyd yn pryderu y byddai UKIP yn fwy llym wrth gosbi Nigel Williams, y cyn-ymgynghorydd wnaeth recordio'r alwad ff么n, yn hytrach na Ms Brown ei hun.

Fe wnaeth Ms Brown alw Mr Umunna yn "goconyt" ac fe wnaeth hi hefyd wneud sylw sarhaus tuag at Tristram Hunt, oedd hefyd yn AS Llafur ar y pryd.

Cafodd y sgwrs ei recordio gan Mr Williams - gafodd ei ddiswyddo gan Ms Brown ym mis Mai.

"Mae angen ei diarddel o'r blaid," meddai Mr Gill.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddefnyddiodd Michelle Brown iaith hiliol wrth siarad am Aelod Seneddol Llafur, Chuka Umunna

"Mae angen i arweinyddiaeth y blaid osod y t么n ar gyfer gweddill yr aelodaeth a dangos am beth 'dyn ni'n sefyll mewn gwirionedd - na fyddwn ni'n dioddef hyn o gwbl."

Dywedodd fod angen i UKIP ei gwahardd "yn syth" er mwyn profi i weddill y byd gwleidyddol "nad ydyn ni'n harbwr ar gyfer... sylwadau hiliol".

Cafodd Mr Gill, fel Ms Brown, ei ethol fel un o ACau UKIP yng Ngogledd Cymru yn etholiadau Cynulliad 2016.

Ond mae bellach yn eistedd fel AC annibynnol ar 么l ffraeo gydag arweinydd y gr诺p ym Mae Caerdydd, Neil Hamilton.

Camau disgyblu?

Ychwanegodd Mr Gill ei fod yn bryderus am ddatganiad cadeirydd y blaid, Paul Oakden dros y penwythnos.

Dywedodd Mr Oakden nad oedd y blaid yn cymeradwyo sylwadau Michelle Brown, ac y bydden nhw'n ymchwilio - ond y bydden nhw hefyd yn "ymchwilio a oedd aelod o'r blaid wedi recordio sgwrs ff么n yn gudd".

Yn sg卯l hynny, dywedodd Mr Gill na fyddai'n "synnu o gwbl" pe bai'r blaid yn diarddel Mr Williams yn lle Ms Brown.

Mae Ms Brown eisoes wedi wynebu galwadau gan sawl plaid yn y Senedd iddi gamu o'r neilltu yn sg卯l ei sylwadau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Nathan Gill yn ASE UKIP, ond yn eistedd fel AC annibynnol

Dywedodd ffynhonnell agos at Michelle Brown y byddai caniat谩u i Nathan Gill gael gwared ag AC UKIP yn "niweidiol" i Neil Hamilton, sydd bellach yn arwain y gr诺p ar 么l trechu Mr Gill mewn pleidlais llynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Hamilton nad oedd ganddo "unrhyw sylw" i'w wneud.

Mae Ms Brown eisoes wedi cyfaddef fod yr iaith wnaeth hi ddefnyddio "mewn sgwrs breifat yn anaddas", ac wedi ymddiheuro "i unrhyw un gafodd eu pechu".

Dywedodd llefarydd ar ran Ms Brown y byddai'n anaddas iddi wneud unrhyw sylw pellach wrth i'r ymchwiliad gael ei gynnal.