Banc bwyd yn rhedeg allan 'oherwydd gwyliau ysgol'

Ffynhonnell y llun, Banc Bwyd Eastside

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y banc bwyd eu bod wedi derbyn ychydig o roddion ddydd Sul

Mae banc bwyd yn Abertawe wedi rhedeg allan o'u cyflenwad, gyda gwirfoddolwyr yn gwneud ap锚l brys am roddion.

Maen nhw'n credu bod diwedd y flwyddyn ysgol yn golygu bod rhai teuluoedd yn cael problemau heb brydau ysgol am ddim.

Fel arfer mae tua 10 o bobl y diwrnod yn defnyddio banc bwyd Eastside ar Heol Mansel, B么n-y-maen, ond mae'r nifer wedi cynyddu'n ddiweddar.

Dywedodd elusen Ymddiriedolaeth Trussell bod gwyliau ysgol y llynedd wedi gweld cynnydd o 10% yn nifer y bobl oedd yn defnyddio eu banciau bwyd.

Ffynhonnell y llun, Banc Bwyd Eastside

Mae Eastside wedi gweld eitemau sylfaenol fel pasta ac offer 'molchi yn rhedeg allan am y tro cyntaf ers iddo agor yn 2013.

Dywedodd AS Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris, bod y sefyllfa yn un "enbyd", gan ychwanegu ei bod yn credu mai'r gwyliau ysgol sy'n gyfrifol.

Yn ystod mis Gorffennaf ac Awst y llynedd fe gafodd 5,185 o becynnau brys eu dosbarthu gan Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru, o'i gymharu 芒 4,733 ym Mai a Mehefin.

Fe wnaeth cyfarwyddwr gwledydd datganoledig yr ymddiriedolaeth, Tony Graham, ganmol y gwaith i ddarparu prydau ysgol am ddim, gan ychwanegu mai'r "cam nesaf yw helpu teuluoedd yn ystod y gwyliau".

Brynhawn Llun, fe gyhoeddodd banc bwyd Blaenau Gwent ap锚l hefyd am fwy o diniau bwyd a bwydydd sych ar 么l iddyn nhw weld cynnydd o 26% yn y galw am gymorth o'i gymharu a'r flwyddyn flaenorol.