'Angen amddiffyn buddion cleifion' yn sgil Brexit

Mae cyngres o sefydliadau yn y maes iechyd wedi galw ar y llywodraeth i amddiffyn buddion cleifion yn nhrafodaethau Brexit gyda'r Undeb Ewropeaidd (UE).

Mae cyngres iechyd Brexit, sy'n cynnwys Cyd-ffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, ymchwil meddygol, sefydliadau iechyd cyhoeddus a chleifion, wedi rhybuddio bydd cleifion yn dioddef oni bai bod trafodwyr yn sicrhau bod ymchwil meddygol a mynediad at feddyginiaethau newydd yn derbyn y sylw mae'n ei haeddu.

Dywedodd cyd-gadeirydd y Gynghrair Niall Dickson: "Mae cyfleoedd gwych ond hefyd peryglon mawr yn y trafodaethau hyn.

"Mae cleifion yn mynd i fod ar eu colled os nad ydyn ni'n gallu cydweithio mewn astudiaethau ymchwil feddygol o bwys.

"Mae hefyd yn hanfodol bod yna ymrwymiad cadarn ar bob ochr i gydlynu ymateb i fygythiadau i iechyd cyhoeddus."

'Blaenoriaethau'

Mae'r Gyngres hefyd yn galw ar hawl dinasyddion y UE i dderbyn gofal iechyd yn y DU i barhau.

Mae'r Gyngres wedi nodi pum blaenoriaeth ar gyfer trafodwyr ble fydd angen cydweithio rhwng y DU a gweddill y UE:

  • Sicrhau lefel uchaf o waith ymchwil ac arloesi cydweithredu;
  • Rheoleiddio'r camau er lles cleifion ac iechyd y boblogaeth;
  • Cadw trefniadau gofal iechyd dwyochrog;
  • Cydlynu cadarn ar iechyd a lles y cyhoedd;
  • Ymrwymiad ariannu cryf i'r sectorau iechyd ac iechyd y cyhoeddus.
Disgrifiad o'r llun, Niall Dickson ydy cyd-gadeirydd y gynghrair feddygol

Ychwanegodd Mr Dickson: "Rydym yn gobeithio bydd cyhoeddi'r blaenoriaethau yn helpu'r llywodraeth sicrhau'r canlyniad gorau i gleifion ac ar gyfer gofal iechyd ar draws y DU.

"Mae llawer iawn o arbenigedd o fewn y Gynghrair, ac rydym yn annog y llywodraeth i wneud defnydd da o hyn i wneud yn si诺r nad yw'r materion hanfodol hyn sy'n effeithio ar iechyd a lles pawb yn y DU yn cael eu hanghofio ochr yn ochr 芒'r holl faterion eraill yn y trafodaethau."