Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns yn ymweld 芒 Japan

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn trafod busnes ar ymweliad 芒 Japan.

Yn ogystal 芒 thrafod Brexit, bydd Mr Cairns yn cynnal trafodaethau gyda chwmni Hitachi, sy'n berchen y cwmni sy'n cynllunio i godi atomfa Wylfa Newydd ar Ynys M么n.

Mae dros 6,000 o bobl yng Nghymru yn gweithio i gyflogwyr o Japan.

Mewn datganiad, dywedodd Swyddfa Cymru y bydd Mr Cairns yn "cwrdd 芒 swyddogion o Panasonic, Sony a Toyota i'w sicrhau y bydd Cymru yn parhau i fod yn wlad uchelgeisiol sy'n edrych tuag allan ar 么l i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd".

Mae gan y tri chwmni ffatr茂oedd yng Nghymru - Panasonic yng Nghaerdydd, Sony ym Mhencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr a Toyota ar Lannau Dyfrdwy.

'Ar agor i fusnesau'

Dywedodd Mr Cairns: "Roeddwn i am ei gwneud yn flaenoriaeth i ymweld 芒 phartner masnachu pwysig, ac i yrru'r neges glir bod y DU yn - ac yn parhau i fod - ar agor i fusnesau.

"Yn dilyn ymadawiad y DU [o'r UE] ry'n ni am barhau i fod yn rym dylanwadol ar lwyfan y byd, gan weithio gyda phartneriaid rhyngwladol i sicrhau diogelwch a llewyrch."

Fe ddaw'r ymadawiad wedi i Japan a'r Undeb Ewropeaidd gyrraedd cytundeb ar fasnach rydd fis diwethaf.