麻豆官网首页入口

Cyfweliadau pobl M么n am Wylfa Newydd yn sail drama

  • Cyhoeddwyd
Ymarferion y ddrama Hollti

Cynlluniau i adeiladu gorsaf b诺er niwclear Wylfa Newydd fydd testun drama yn agos at faes y brifwyl ar Ynys M么n.

Hollti ydy enw'r cynhyrchiad gan y Theatr Genedlaethol, ond geiriau cymeriadau bywyd go iawn fydd yn cael eu darllen gan actorion ar lwyfan Theatr Bro Alaw.

Trwy gyfweld a phobl oedd yn gweithio yn Wylfa, a'r rhai sy'n gwrthwynebu'r atomfa newydd, mae'r Theatr Genedlaethol yn gobeithio adlewyrchu bob elfen o'r hanes.

Manon Wyn Williams sydd wedi creu sgript o'r cyfweliadau hynny - does dim un gair wedi newid - gyda'r actorion yn chwarae amryw gymeriadau gwahanol.

Llawn 'yms' ag 'ahs'

Gwyn Vaughan Jones ydy un ohonynt, ac sydd wedi wynebu'r her o ddilyn holl elfennau'r sgript.

"Mae'r geiriau sydd wedi dod allan o geg rhywun - maen nhw'n llawn 'yms' ag 'ahs' fel da chi'n clywed gen i r诺an.

"Ac wedyn da ni'n trio rhoi rhein i gyd i mewn i'r sgript. Mae yna 'ym...' ac 'i...', ac felly dim deialog ydy o, ond be mae pobl wedi'i ddweud - gair am air.

"Ac wedyn da ni'n gorfod cofio hyn i gyd a thrio gwneud hi mor naturiol ac sy'n bosib."

Disgrifiad,

Mae Gwyn Vaughan yn gobeithio y bydd y ddrama yn ddechreuad i drafodaeth genedlaethol ar ynni niwclear

Ymhlith gweddill y cast mae Siw Hughes a'r actor Dafydd Emyr, sy'n dod o F么n yn wreiddiol.

Mae'n dweud iddo gael ei fagu'n clywed y dadleuon dros ynni niwclear.

'O blaid, neu ddim?'

"Mae'r ddadl wedi bod yn bodoli ar Ynys M么n ers dwi'n cofio, ers pan o'n i'n hogyn bach.

"Ond r诺an efo'r syniad yma o Wylfa Newydd, mae'n rhaid i ni eto ail ffocysu ar y cwestiwn mawr yma - ydyn ni o blaid, neu ddim?

"Ai ni fel cymuned fach sydd yn mynd i benderfynu hyn, neu ai'r gwleidyddion yn Llundain?

"Mae rhaid i bobl M么n hefyd fod yn gyfrifol am eu penderfyniadau eu hunain, a chyfrannu at y drafodaeth honno."

Mae'r protestwyr sydd wedi gwrthwynebu adeiladu ail orsaf yn Wylfa yn cael eu cynrychioli ar y llwyfan.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Dafydd Emyr ei eni ar Ynys M么n ac mae'n hen gyfarwydd 芒'r dadleuon o'r ddwy ochr

Tra bod y rhan helaeth o bobl leol yn ddienw, mae'r ymgyrchydd Robat Idris wedi dweud ei fod wedi cael ei holi gan awdur y ddrama, ac mae'n ffyddiog bydd Hollti yn llwyddo i gyflwyno'r ddadl gyflawn.

"Mae gen i ffydd ym Manon y bydd hi yn cyfleu beth mae pobl wedi dweud go iawn.

"Dydw i ddim wedi gweld y sgript na dim byd felly, ac wrth gwrs mae gan wahanol bobl wahanol safbwyntiau.

"Da ni'n glir iawn yn ein barn ni yn Pobl Atal Wylfa B wrth gwrs ein bod ni yn gwrthwynebu ar sail y peryglon yn bennaf."

Horizon yn croesawu'r ddrama

Dyw Horizon - sy'n bwriadu adeiladu Wylfa Newydd - ddim wedi cyfrannu cyfweliad ar gyfer y ddrama, ond mae ei llefarydd Richard Foxhall yn dweud bod y cwmni'n croesawu'r cynhyrchiad.

"Pwrpas y ddrama ydy ddim i drio cael pobl i ochri un ffordd neu'r llall, ac mae hwnna yn wych a dwi'n gobeithio fyddan nhw'n cyflawni hynna," meddai.

"Dwi'n meddwl bod e'n bwysig i straeon gael eu dweud, a bod barn pobl go iawn yn cael ei ddweud - o blaid neu'r ffordd arall.

"Yn sicr dwi'n gwybod bod lot fawr o gefnogaeth, mae'n rhaid i ni gofio bod yr atomfa bresennol wedi cyflogi miloedd o bobl dros ei oes gweithredol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Hollti yn cael ei pherfformio yn ystod wythnos yr Eisteddfod, gan ddechrau ar 8 Awst

Y cyfarwyddwr Sarah Bickerton sydd 芒'r dasg o droi cyfweliadau'r gymuned yn ddrama sy'n dal dychymyg y gynulleidfa - ac sy'n ychwanegu at y drafodaeth.

"I fi beth sy'n bwysig ydy, neu'r gobaith ydy, bod y darn yma o waith yn cychwyn agor fyny'r drafodaeth.

"Falle dim jyst am niwclear ond am y ffordd mae cymunedau yng Nghymru a thu hwnt yn trafod ac yn delio efo'r newidiadau sydd yn digwydd yn y byd 'da ni'n byw ynddi r诺an."

Ysgogi trafodaeth bellach

Mae Hollti yn adlewyrchu'r drafodaeth sy'n digwydd yn barod ar Ynys M么n.

Ond wrth i'r ddrama fynd ar daith yn yr hydref, mae criw'r theatr yn gobeithio ysgogi trafodaeth bellach am y galw am ffynonellau newydd o ynni, a'u heffaith ar gymunedau ledled Cymru.

Bydd y ddrama'n cael ei pherfformio yn Theatr Alaw o nos Fawrth tan nos Wener yn ystod yr Eisteddfod cyn teithio o gwmpas theatrau Cymru ym mis Hydref.