Galw i beidio gwerthu tir safle posib carchar newydd

Disgrifiad o'r llun, Gallai carchar gael ei adeiladu ar dir gwag ym Mharc Diwydiannol Baglan
  • Awdur, James Williams
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae gwleidyddion Llafur yn galw ar eu cyd-aelodau o'r blaid sy'n rhan o Lywodraeth Cymru i beidio 芒 gwerthu tir sydd wedi cael ei ddewis fel safle carchar newydd ym Mhort Talbot.

Mae'r alwad yn dod gan David Rees AC a Stephen Kinnock AS yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Mawrth eu bod yn bwriadu adeiladu carchar newydd ar dir sydd heb ei ddatblygu yn eu hetholaeth yn Aberafan.

Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar y safle ym Maglan, ger yr M4 - un o 20 safle posib a gyflwynwyd gan swyddogion yng Nghaerdydd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai carchar newydd yn dod 芒 buddiannau economaidd i'r ardal.

Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth y DU i wario 拢1.3bn ar greu hyd at 10,000 o leoedd carchar newydd erbyn 2020, gofynnodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder i swyddogion Llywodraeth Cymru ddarparu rhestr o safleoedd posib yn ne Cymru oedd yn cyrraedd meini prawf penodol.

O'r 20 o safleoedd a gyflwynwyd, mae naw yn eiddo preifat tra bod yr 11 sy'n weddill yn eiddo i'r sector cyhoeddus.

Rhestr o safleoedd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru

Safleoedd sy'n eiddo i'r sector breifat:

  • Bae Baglan, Port Talbot
  • Safle San Modwen, Baglan
  • Coed Darcy, Llandarcy, Castell-nedd
  • Parc Busnes Celtic, Casnewydd
  • Sully Moors, Y Barri
  • Parc Eirin, Tonyrefail
  • Bryn Serth, Tredegar
  • Llanilid, Pontyclun
  • Hirwaun, Aberd芒r

Safleoedd sy'n eiddo i'r sector cyhoeddus:

  • Parc Busnes Glyn-nedd, Cwm Nedd
  • Parc Busnes Oakdale, Croespenmaen, Caerffili
  • Heol Felin Gafr, Merthyr Tudful
  • Parc Eirin, Tonyrefail
  • Parc Diwydiannol Baglan, Port Talbot
  • Rhyd Y Blew, Glyn Ebwy
  • Coed Ely, Llantrisant
  • Brocastell, Penybont
  • Parc Gwynllwg, ger Caerdydd
  • Parc Busnes Felindre, Abertawe
  • Ffos-y-fran, Merthyr Tudful
Disgrifiad o'r llun, Dywedodd David Rees mai "nid dyma'r safle cywir" ar gyfer y carchar

Cafodd rhestr fer o dri safle ei hystyried cyn i safle Parc Diwydiannol Baglan gael ei ddewis.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru yn deall y bydd lle i 1,600 o droseddwyr yn y carchar categori C, er nad yw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cadarnhau hynny.

Nid yw'r Aelod Cynulliad Llafur lleol, David Rees, yn gwrthwynebu'r syniad o garchar yn yr ardal, ond dywedodd mai "nid dyma'r safle cywir".

"Mae yng nghanol y dref, yng nghanol ardal breswyl ger st芒d ddiwydiannol, sydd yn yr ardal ar gyfer tyfu mentrau economaidd. Dyw hi ddim yn iawn," meddai.

"Os yw carchardai Caerdydd ac Abertawe yn debygol o gau o ganlyniad i hyn, a dyna rhai o'r sibrydion rydyn ni'n clywed, yna ni fydd hyn yn creu cyfleoedd economaidd.

"Bydd y swyddi o'r carchardai hynny yn cael eu trosglwyddo yma, bydd y cadwyni cyflenwi o'r carchardai hynny yn cael eu trosglwyddo yma, felly ni fydd unrhyw gyfle unwaith y bydd y carchar hwn yn cael ei sefydlu i dyfu'r economi."

'Y peth anghywir i'w wneud'

Mae Mr Rees ac Aelod Seneddol Llafur yr ardal, Stephen Kinnock, yn annog y Llywodraeth Lafur Cymru i beidio 芒 gwerthu'r tir i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Dywedodd Mr Rees y byddai'n beth "anghywir i'w wneud" ond bod yr ymateb hyd yma gan weinidogion yng Nghaerdydd "nid efallai'r un yr wyf am ei glywed".

Mae'r safle arfaethedig wedi ei leoli yn un o'r tair ardal a ddynodwyd fel a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru y llynedd mewn ymateb i'r argyfwng dur.

Mae'n un o wyth ardal fenter a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth busnes, gan gynnwys cymorth ariannol.

'Peryglu potensial economaidd'

Dywedodd AC Plaid Cymru Bethan Jenkins mai pwrpas yr ardal fenter yw "gwella'r economi yn sector preifat Port Talbot".

Yn 么l y cynrychiolydd dros ranbarth Gorllewin De Cymru: "Mae carchar newydd yn peryglu'r potensial economaidd hynny a bydd yn rhoi Port Talbot ar y map am y rhesymau anghywir.

"Rydym yn haeddu ac yn gallu gwneud yn llawer gwell na hyn."

Mae hi hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddweud wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder "nad yw'r safle ym Mhort Talbot ar werth".

'Dim problem'

Mae cwmni sydd wedi ei leoli ger y safle arfaethedig ar gyfer y carchar wedi gwneud cynnig ffurfiol i'w brynu gan Lywodraeth Cymru.

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Economi Ken Skates, mae cwmni Envases, sy'n cynhyrchu deunydd pacio alwminiwm, yn dweud mai sail y cais yw amddiffyn diddordebau'r cwmni a'r gymuned.

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y carchar yn dod 芒 buddiannau economaidd i'r ardal

Pryder Cultech, y cwmni sydd drws nesaf, yw'r effaith bosib ar y seilwaith lleol ar gyfer trafnidiaeth.

Dywedodd Sue Plummer, cyd-sylfaenydd y cwmni sy'n gweithgynhyrchu atchwanegiadau probiotig: "Yn bersonol, does gen i ddim problem wirioneddol gyda'r ffaith y bydd e'n cael ei leoli'n agos iawn i ni.

"Byddem yn gallu parhau i weithgynhyrchu fel ag y mae."

'Ymwybodol o bryderon'

Ar ran Llywodraeth Cymru dywedodd llefarydd: "Ry'n yn ymwybodol o bryderon trigolion lleol ond ry'n yn hyderus petai Llywodraeth y DU yn sicrhau caniat芒d cynllunio i garchar newydd y byddai hyn o fudd economaidd i'r ardal.

"Petai'r cynlluniau yn mynd yn eu blaen byddwn yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, cwmn茂au lleol a'r gymuned leol i dawelu meddwl trigolion ac i wneud y mwyaf posib o'r cyfleon cyflogaeth y byddai'r datblygiad yn ei roi i Faglan ac i dde Cymru."