麻豆官网首页入口

Sports Direct yn ymchwilio i honiad am wahardd y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Sports DirectFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr honiad yw bod siop Sports Direct ym Mangor wedi gwahardd y defnydd o'r Gymraeg

Mae Sports Direct yn ymchwilio i lythyr sydd wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol am eu polisi iaith.

Mae'r ddogfen - gafodd, yn 么l adroddiadau, ei harddangos yn eu siop ym Mangor - yn dweud mai Saesneg ydy iaith swyddogol y cwmni a bod angen i staff siarad 芒'i gilydd yn yr iaith honno yn y gwaith.

Ond mae'r cwmni yn ganolog wedi gwadu bod gwaharddiad ar siarad Cymraeg nac unrhyw iaith arall.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cadarnhau ei bod yn ymchwilio i'r honiadau.

'Siarad Saesneg drwy'r amser'

Mae'r llythyr honedig o siop Sport Direct Bangor, gafodd ei gyhoeddi ar Twitter, yn dweud bod "rhai aelodau o staff yn siarad ieithoedd ond Saesneg tra'n gwneud eu dyletswyddau".

Yn 么l y ddogfen mae'n "rhaid i staff siarad Saesneg drwy'r amser yn y gwaith.... gan gynnwys unrhyw sgyrsiau personol yn ystod oriau gwaith."

Ond yn eu datganiad, dywedodd Sports Direct bod y fath bolisi iaith ddim yn bod ac nad oedd y cwmni'n ganolog wedi gosod y gorchymyn ar siop Bangor nac unrhyw gangen arall.

"Mae Sports Direct yn fusnes rhyngwladol, sy'n gweithio mewn nifer o awdurdodaethau", meddai llefarydd.

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd AS Plaid Cymru ymysg y rhai fu'n ymateb i'r honiadau ar Twitter

"Rydym yn annog defnydd o'r iaith gynhenid a bydden ni fyth yn gorchymyn i'n staff beidio gwneud hynny.

"Dydy cyfyngu ar y defnydd o'r Gymraeg nac unrhyw iaith arall ddim yn bolisi gan y cwmni."

Mae'r cwmni'n dweud eu bod yn ymchwilio i'r honiadau.

, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg y bydd ei swyddfa'n ymchwilio hefyd.

"Yn dilyn yr honiadau am bolisi iaith Sports Direct, mae'r Comisiynydd wedi rhoi cyfarwyddiadau i'w swyddogion agor ymchwiliad dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011."