Sgw芒r Canolog Caerdydd i gartrefu 4,000 o weision sifil

Ffynhonnell y llun, Rightacres

Disgrifiad o'r llun, Mae datblygiad y Sgw芒r Canolog yn debygol o drawsnewid canol y ddinas

Fe fydd 4,000 o weision sifil Llywodraeth y DU yn gweithio yn natblygiad Sgw芒r Canolog Caerdydd.

Mae Llywodraeth y DU wedi arwyddo les 25 mlynedd am swyddfeydd ar y safle, fydd yn gartre' i nifer o adrannau, gan gynnwys yr awdurdod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).

Yn 2015, cyhoeddodd HMRC fwriad i ganoli gwasanaethau mewn 13 canolfan ranbarthol ar draws y DU, gyda'r bwriad o gau safleoedd yn Abertawe, Wrecsam a Phorthmadog.

Daeth datganiad fis diwethaf y bydd y swyddfa ym Mhorthmadog yn aros ar agor wedi'r cwbl.

Mae'r Sgw芒r Canolog yn ddatblygiad yng nghanol y brifddinas, ger yr orsaf reilffordd, a bydd y safle llawn hefyd yn gartref i bencadlys newydd 麻豆官网首页入口 Cymru.

Yn 么l Llywodraeth y DU, bydd eu canolfan yn barod i'w gweithwyr erbyn 2020.