麻豆官网首页入口

Awgrym na fydd cyflwynwyr newydd i Radio Cymru 2 yn syth

  • Cyhoeddwyd
Betsan Powys

Mae golygydd Radio Cymru wedi awgrymu nad cyflwynwyr newydd fydd yn darlledu i ddechrau ar Radio Cymru 2.

Wrth gael ei holi ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol dywedodd Betsan Powys bod dod o hyd i leisiau newydd yn y Gymraeg yn her ond ei bod eisiau datblygu hyn i'r dyfodol.

"Dwi ddim yn synhwyro mai talent newydd fydd yn cyflwyno o'r dechrau'n deg ar Radio Cymru 2...

"Dwi isie mynd gyda phwy dwi yn meddwl gyrhaeddith y gynulleidfa ond hefyd ffindio ffyrdd i ddechrau trio magu talentau newydd."

Peilot

Dyw enwau'r cyflwynwyr fydd yn gweithio ar raglenni Radio Cymru 2 ddim wedi cael eu cyhoeddi eto.

Mae yna gynllun peilot yn digwydd ar hyn o bryd, meddai, ond dim penderfyniad wedi ei wneud.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o gyflwynwyr gwasanaeth Radio Cymru Mwy wnaeth bara am 15 wythnos

"Ni yn gwybod pwy sydd yn y ras a pwy sydd yn peilota ond pwy fyddan nhw, dydyn ni ddim yn gwybod," meddai.

Dywedodd Betsan Powys hefyd ei bod eisiau ystyried am faint o oriau yn y bore y bydd Radio Cymru 2 yn darlledu o'r dechrau.

"Yr hawl i ni wedi cael yw i ddarlledu rhwng 7 a 10 y bore.

'Peth cynta' yn y bore'

"Ydyn ni yn mynd i ddechrau yn syth darlledu rhwng 7 a 10 neu ydyn ni yn dechre gyda rhaglen fyrrach a'i chael hi'n iawn?

"Mae hynny yn un cwestiwn sydd yn fy mhen i, achos mae'n bwysicach i fi bod ni yn cael e'n iawn mae'n rhaid i fi ddweud, a bod ni yn anelu am y man hwnnw lle mae'r gynulleidfa ar ei chryfa' sef y peth cyntaf yn y bore."

Dywedodd hefyd mai canolbwyntio ar yr oriau yn y bore fyddan nhw i ddechrau ond os bydd Radio Cymru 2 yn llwyddo bod angen ceisio gwthio i gael darlledu am oriau hirach.

Rhywbeth i'w ystyried yn y dyfodol yw hynny meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ffigyrau diweddaraf rhaglen Tudur Owen gyda Manon Rogers a Dyl Mei yn dangos bod y rhaglen yn "llwyddiant ysgubol" meddai Betsan Powys

"Beth fydden ni yn dweud, mai dim ar 么l 10 y bore ma' nhw yn mynd, byddan nhw yn mynd am beth sydd yn cael ei alw yn drive time, y prynhawn, pan chi ar eich ffordd adref o'r gwaith.

"Beth liciech chi ei gael? Ond brwydrau'r dyfodol fydde rheini."

Y nod meddai yw lansio'r orsaf newydd ym mis Tachwedd ond fe allai heriau technegol a'r ffaith bod 麻豆官网首页入口 Cymru yn symud i ganol Caerdydd olygu y bydd yr amserlen yn llithro.

Angen bod yn ddewr

Dywedodd hefyd bod Radio Cymru 2 yn gyfle i drio pethau gwahanol gan gyfeirio at raglen boblogaidd Tudur Owen.

Mae caneuon Saesneg yn cael eu chwarae yn ystod y rhaglen honno.

"Yr awgrym dwi yn gwneud ydy falle bod 'na ffordd i ddod 芒'r gynulleidfa hefo ni.

"Nid herio, dod 芒'r gynulleidfa efo ni - gan ddweud wrth rheini sydd yn dweud, 'Na mae clywed c芒n Saesneg ar Radio Cymru yn gwneud hon yn llai o Radio Cymru i fi, dyw e ddim yn Radio Cymru wedyn,' wel bod 'na Radio Cymru arall i gael.

"Dwi'n meddwl dylen ni arbrofi a thrio pethe, bod yn ddewr am fod 'na gyfle i wneud.

"Peidio gosod rheolau, peidio cael ryw bolisi mawr achos eisiau cydweithio gyda'r gynulleidfa i ni i geisio cyrraedd atebion."