Symud pobl o dai yng Nghwm Tawe achos pryder tirlithriad

Disgrifiad o'r llun, Mae tirlithriad wedi digwydd yn yr ardal o'r blaen yn 2012

Mae rhai o drigolion Cwm Tawe wedi gorfod symud o'u tai oherwydd pryderon am dirlithriad.

Cafodd teuluoedd ar Heol Cyfyng yn Ystalyfera wybod bod rhaid gadael eu cartrefi yn syth oherwydd bygythiad gwirioneddol i'w diogelwch.

Mae dirprwy arweinydd Cyngor Castell Nedd Port Talbot, Anthony Taylor yn dweud bod pryder am 10 o dai.

Mae'r cyngor yn rhoi cefnogaeth i'r rhai sydd wedi gorfod symud ac yn gwneud ymdrechion i'w hail gartrefu.

Tirlithriad arall yn bosib

Digwyddodd tirlithriad yn yr ardal am y tro cyntaf yn 2012 ac mae'r tir wedi symud eto ym mis Chwefror a Mehefin eleni, gan amlygu problemau newydd meddai Mr Taylor.

Mae peirianwyr wedi dweud bod posibilrwydd y gallai tirlithriad arall ddigwydd mewn tywydd garw.

Disgrifiad o'r fideo, 'Mae mam 'di bod yn llefen non-stop ers i bopeth ddigwydd, fi 'di bod yn llefen'

Mae Morgan Bendle yn 24 ac yn byw yn Ystalyfera, a bu'n rhaid iddi symud allan o'i chartref pan gafodd ei theulu wybod am sefyllfa'r tir.

"O'dd e'n horrendous, mae mam 'di bod yn llefen non-stop ers i bopeth ddigwydd, fi 'di bod yn llefen.

"Jyst ddim yn gw'bod ble ni'n mynd i aros am y nos yw'r peth gwaetha'."

Mae hi wedi bod yn ddibynnol ar gyfeillgarwch teulu a ffrindiau, tra bod ei mam a'i brodyr a chwiorydd mewn gwesty.

Dywedodd bod y teulu wedi cael gwybod bod y ty'n ddiogel yn wreiddiol.

"Ni 'di cal pobl yn dod.. A dweud bod e'n ddiogel, sdim angen i ni fynd, ni 'di teimlo'n gwbl ddiogel yma.

"A nawr, syndod yw e, ni 'di bod yn aros yma a dyw e ddim yn saff, a dim ond nawr ni'n cael ein symud mas."

Disgrifiad o'r llun, Mae Paul Harris yn gwrthod symud o'i gartref

Mae un arall sy'n byw yno, Paul Harris yn dweud bod arolwg o'i d欧 ar 么l y tirlithriadau diwethaf wedi dangos nad oedd dirfod, ond cafodd wybod bod "risg" y gallai ei gartref "ddisgyn i lawr" dau ddiwrnod yn 么l.

Nid yw Mr Harris ddim yn bwriadu symud. Mae'n dweud bod y cyngor wedi cynnig llety gwely a brecwast iddo ond does dim lle i'w g诺n.

"Falle bod 'na berygl gwirioneddol, dwi ddim yn gwybod," meddai.

"Dwi'n meddwl bod angen i'r cyngor benderfynu ar gynllun pendant. Dyw hi ddim yn ymddangos eu bod nhw'n rhoi'r wybodaeth mae trigolion yn gofyn amdano.

"Os oedden nhw yn gwybod bod hi'n debygol y byddai yn rhaid iddyn nhw wneud hyn, pam na wnaethon nhw drefnu llety yn gynharach. Pam nawr?"

'Gorfod gwneud hyn'

Dywedodd Dewi Hopkins wrth 麻豆官网首页入口 Cymru: "Mae'r Cyngor, mae nhw'n gorfod neud pethe fel hyn. Os oes rhywbeth yn digwydd pwy fydd pobl yn beio?"

"Fi'n teimlo am y bobl h欧n, peidiwch a meddwl nag ydw i, fi'n nabod nhw, ond mae'r Cyngor yn gorfod gwneud hyn."

Mae dirprwy arweinydd Cyngor Castell Nedd Port Talbot wedi dweud ar raglen Good Morning Wales y gallai'r sefyllfa bara am beth amser am nad oes yna ddatrysiad cyflym.

Dywedodd fod y cyngor yn ceisio helpu'r trigolion lleol ac mae llinell gymorth a chanolfan gynghori wedi ei sefydlu.

"Rydyn ni yn cydymdeimlo yn fawr gyda'r trigolion ac mae'n adeg anodd iawn iddyn nhw.

"Rydyn ni yn gweithio gyda'r teuluoedd yn unigol am fod yr amgylchiadau yn unigryw iddyn nhw i gyd ac mi ydyn ni yn ceisio dod o hyd i lety iddyn nhw mor agos 芒 phosib i'w cartrefi."