麻豆官网首页入口

'Angen consensws' ar gytundebau masnach ar 么l Brexit

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae prif weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud y dylai unrhyw gytundebau masnach ar 么l Brexit gael "cydsyniad eang" pob un o wledydd y DU.

Daw hynny wedi i ysgrifennydd masnach ryngwladol Llywodraeth y DU, Liam Fox awgrymu na ddylai'r sefydliadau datganoledig gael feto dros gytundebau masnach.

Dywedodd Plaid Cymru na ddylai unrhyw gytundeb gael ei arwyddo heb "gymeradwyaeth" Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod eisiau polisi masnach sydd yn cynrychioli Prydain gyfan.

'Cynhwysol a thryloyw'

Mae The Times wedi adrodd fod Mr Fox wedi ysgrifennu at gydweithwyr yn y cabinet yn cynnig pedwar opsiwn ar gyfer cytundebau masnach.

Yn 么l y papur newydd mae'n debyg ei fod e'n ffafrio "opsiynau sydd ddim yn rhoi feto i'r sefydliadau datganoledig".

Dywedodd yr Adran Fasnach Ryngwladol nad oedden nhw wedi penderfynu ar safbwynt terfynol eto.

"Rydyn ni wedi bod yn glir ein bod ni eisiau polisi masnachu sydd yn gynhwysol a thryloyw ac sy'n cynrychioli'r Deyrnas Unedig gyfan," meddai llefarydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

A fydd yn rhaid dod i gytundeb 芒'r sefydliadau datganoledig ar gytundebau masnach?

"Fyddwn ni ddim yn gwneud sylw bob munud ar bolisi masnachu posib y dyfodol."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: "Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda'r sefydliadau datganoledig i sicrhau ein bod ni'n cael bargen sydd yn gweithio i bob rhan o'r DU.

"Byddwn ni'n parhau i weithio gyda nhw ar y mater mwysig yma."

'Peryglu'r economi'

Mewn ymateb dywedodd Mr Jones fod Mr Fox "fel petai'n benderfynol o weithio ar gyfer un rhan o'r DU yn unig, nid y wlad gyfan".

"Mae datganoli yng Nghymru yn bodoli o ganlyniad i ddwy refferendwm. Allwch chi ddim anwybyddu dymuniad pobl Cymru unrhyw mwy nag y gallwch chi anwybyddu canlyniad refferendwm yr UE.

"Mae'n rhaid i'r pedair llywodraeth ddod at ei gilydd i gytuno ar fframweithiau DU cadarn mewn meysydd sydd wedi'u datganoli ac ar bolis茂au sydd heb, ar bynciau o ddiddordeb fel masnach."

"Rydw i wedi galw sawl gwaith am Gyngor o Weinidogion y DU i fod yn gyfrifol am feysydd polisi ble mae angen cytundeb rhwng pedwar sefydliad y DU.

"Mae angen i'n perthnasau masnachu 芒'r UE a gweddill y byd yn y dyfodol gael consensws eang rhwng pob un o wledydd y DU os yw am fod yn llwyddiant."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, Jonathan Edwards: "Os yw'r DU yn gadael yr undeb dollau ac felly'n gallu ffurfio cytundebau, mae'n hanfodol nad oes unrhyw gytundeb masnachu yn cael ei arwyddo heb gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru.

"Fel arall gallai Llywodraeth y DU fod yn peryglu sectorau economaidd Cymreig allweddol yn ogystal 芒'n gwasanaethau cyhoeddus, gan fwy neu lai disodli'r setliad datganoledig."