Rhys yn cefnogi Tafarn Sinc

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口

Mae'r actor Rhys Ifans wedi rhoi ei gefnogaeth i ymgyrch i gadw un o dafarnau enwocaf Cymru ar agor.

Mae dyfodol Tafarn Sinc yn Rosebush ger Maenclochog yn Sir Benfro wedi bod yn ansicr ers iddi hi gael ei rhoi ar y farchnad am 拢295,000

Y mis diwethaf fe bleidleisiodd dros 100 o bobl yr ardal o blaid ei phrynu a'i rhedeg fel menter gydweithredol. Mae'r ymgyrch i godi arian yn parhau ac mae nifer o wynebau amlwg wedi rhoi eu cefnogaeth i'r gymuned.

Mewn dywedodd Rhys Ifans ei fod yn ystyried ei hun yn 'hogyn o sir Benfro'. Cafodd ei eni yn Hwlffordd ac mae newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 50 fis diwethaf.

Disgrifiad o'r fideo, Seren Hollywood yn helpu ymgyrch leol yn Sir Benfro (fideo gan bapur newydd Clebran)

Mae enwogion eraill wedi cefnogi'r ymdrechion i achub y dafarn gan gynnyws y darlledwyr Huw Edwards a Jamie Owen a'r canwr opera Trystan Ll欧r.

Cafodd y dafarn ei hadeiladu yn 1876, pan gafodd y rheilffordd o Glunderwen i Rosebush ei hagor. Ei henw gwreiddiol oedd 'The Precelly Hotel' a hyd heddiw y tu allan i'r dafarn mae yna atgynhyrchiad o blatfform a chaban signalau.

Cafodd y dafarn ei chau yn 1992 oherwydd ei chyflwr gwael, ond penderfynodd y g诺r busnes lleol Brian Llewelyn a'i wraig Brenda i'w hadnewyddu a'i hailenwi yn 'Tafarn Sinc Preseli' ar 么l y deunyddiau haearn rhychiog galfanedig gafodd eu defnyddio i'w hadeiladu.

Ymhlith y rhai sy'n arwain yr ymgyrch i achub Tafarn Sinc mae Hefin Wyn, golygydd papur bro Clebran:

"Mae hyn yn dangos bod cefnogaeth eang i'r ymgyrch ac i'r gymuned yma. Mae Rhys yn dod i'r dafarn yn rheolaidd pan mae yn yr ardal.

"Mae enwogion fel Rhys ac eraill yn rhoi eu cefnogaeth i'r ymgyrch am fod y dafarn yn un eiconig ac unigryw."