Gwyddoniaeth yn cael ei weld fel pwnc i 'fechgyn'

Ffynhonnell y llun, iStock

Mae'r syniad bod gwyddoniaeth yn bwnc "i fechgyn" yn cael ei bwysleisio wrth ferched cyn eu bod nhw'n medru siarad, meddai uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dim ond un o bob chwech o weithwyr yn y sector STEM - sef swyddi yn ymwneud a Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg - sydd yn ferched, ac mae ffigyrau gan Lywodraeth Cymru hefyd yn dangos mai 12% o fyfyrwyr peirianneg a thechnoleg sydd yn ferched.

Yn 么l y darlithydd Hannah Dee, mae plant yn sylwi ar feddylfryd "llwythol" cyn eu bod nhw'n dechrau gwneud penderfyniadau eu hunain.

Teganau merched a bechgyn

Bwriad ymgyrch Let Toys be Toys yw enwi cwmn茂au a siopau ar y cyfryngau cymdeithasol sydd yn catagoreiddio teganau yn 么l eu rhyw, yn enwedig pan mae teganau sydd yn ymwneud 芒'r byd gwyddonol a thechnoleg yn cael eu rhoi yn syth yn yr adran 'bechgyn'.

Mae astudiaethau yn dangos bod agweddau pobl tuag at ferched a bechgyn ar hyd eu bywydau yn "ddinistriol", meddai Dr Dee.

"Mae'r syniad bod merched ddim yn hoffi gwyddoniaeth am fod ganddyn nhw lai o dalent gynhenid ar gyfer gwyddoniaeth yn hollol chwerthinllyd.

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library

Disgrifiad o'r llun, Does dim ateb hawdd er mwyn annog merched i ymwneud gyda gyrfaoedd fel technoleg, mathemateg a gwyddoniaeth meddai Dr Hannah Dee

"Mae'n niweidiol i ferched. Roedd ganddyn nhw lai o feddwl o'u hunain ac roedd y proffesiwn roedden nhw wedi dyheu amdano yn rhai lle doedd ganddyn nhw ddim statws neu ddim yn swyddi gyda chymaint o arian.

"Ond mae'n niweidiol i fechgyn hefyd.

"Dw i'n meddwl bod bechgyn - a phlant i gyd - yn medru bod yn greulon iawn, a dyw bechgyn ddim yn 'cael' gwneud unrhyw beth yn ymwneud gyda gofal neu maen nhw'n cael eu disgrifio fel pansis."

Annog newid

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod diffyg cynrychiolaeth o ferched yn y gweithlu STEM yn "fater o bwys" i Gymru a bod annog mwy o ferched i weithio yn y maes yn gwneud "synnwyr economaidd".

Dywedodd Dr Dee, sydd yn ceisio cael plant i ymddiddori mewn cyfrifiaduron a codio bod merched yn cael eu categoreiddio oherwydd eu rhyw yn gynnar.

"Un o'r pethau gwaethaf yw microsgop merched. Rydych chi yn gallu prynu microsgop 'i ferched' ond does ganddo ddim hanner y chwyddiad a'r rhai eraill....

"Beth mae hyn yn dangos yw 'ie fe allith merched gael microsgop ond does dim angen iddo fod mor dda'."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l yr uwch ddarlithydd dyw merched ddim yn cael ei hannog i chwarae teganau fel setiau Logo heddiw

Ond mae'r uwch ddarlithydd gwyddoniaeth gyfrifiadurol wedi dweud nad oes yna ateb hawdd.

"Mae clybiau codio ac unrhywbeth gwirfoddol yn debygol o fod gyda thuedd rhyw am eu bod nhw yn barod wedi dadansoddi patrymau erbyn iddyn nhw fynychu'r clybiau."

Gwerth economaidd

Ychwanegodd bod y sefyllfa yn waeth r诺an nag yn gorffennol a'i bod hi fel plentyn wedi chwarae gyda doliau ond hefyd setiau Lego a gwyddoniaeth.

"Mae'n dorcalonnus bod Lego nawr yn cael ei weld fel rhywbeth i fechgyn, mae'n syniad gwallgof. Blociau ydyn nhw," meddai.

Mae adroddiad gan ymgyrch Wise, sydd yn ceisio cynyddu'r nifer o ferched ym meysydd STEM yn dweud pe byddai hyn yn digwydd y gallai fod werth 拢2bn i'r economi ym Mhrydain a helpu i "herio stereoteip rhyw".