麻豆官网首页入口

拢1.8m i wella ystafelloedd yn y Cynulliad sy'n 'aml yn wag'

  • Cyhoeddwyd
Ty HywelFfynhonnell y llun, Google

Mae pryderon wedi eu mynegi ynghylch y gost o 拢1.8m ar gyfer adnewyddu ystafelloedd pwyllgora'r Cynulliad sy'n "wag y rhan fwyaf o ddiwrnodau".

Mae ailwampio llawr gwaelod adeilad T欧 Hywel ym Mae Caerdydd yn golygu bod gan y Cynulliad bum ystafell bwyllgor yn lle pedair.

Yn 么l Daran Hill, rheolwr gyfarwyddwr cwmni materion cyhoeddus Positif: "Nid yw'r llymder sydd wedi wynebu Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ledled Cymru dros y saith mlynedd diwethaf yn llythrennol yn berthnasol i goridorau grym yn y Cynulliad."

Dywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad bod y newidiadau, "yn sicrhau y gall y Cynulliad wneud defnydd mwy cost-effeithiol o'r llawr gwaelod, a darparu lle sy'n addas at y diben ac yn fwy hyblyg ar gyfer busnes y Cynulliad".

'Gwag y rhan fwyaf o ddiwrnodau'

Mae'r adeilad, sy'n gartref i'r 60 Aelod Cynulliad a'u staff, drws nesaf i'r Senedd ac yn cynnwys yr hen siambr.

Ychwanegodd Mr Hill bod yr ystafelloedd "ond ar gyfer diwrnodau lle mae pedwar cyfarfod yn digwydd.

"Maen nhw'n wag y rhan fwyaf o ddiwrnodau neu'n cael eu defnyddio ar gyfer cyfarfodydd mewnol.

"Mae'n bryd bod Aelodau'r Cynulliad yn gwrthdroi'r cynnydd blynyddol yn y gyllideb ar gyfer eu hadeilad eu hunain.

"Mae angen iddynt gymryd cyfrifoldeb am orstaffio a gorwariant."

Ffynhonnell y llun, Cynulliad
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gwaith wedi newid ystafelloedd cyfarfod a mannau aros i bobl fydd yn rhoi tystiolaeth

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Daran Hill nad yw "llymder yn berthnasol yn llythrennol i goridorau grym yn y Cynulliad"

Dywedodd David Bevan, arweinydd Plaid Diddymu'r Cynulliad, ei fod yn "enghraifft arall o wastraffu ein harian er lles y dosbarth gwleidyddol yn unig, nid er lles y cyhoedd".

'Nodweddion cynaliadwy'

Dywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad: "Roedd y gwaith o adnewyddu llawr gwaelod T欧 Hywel yn cynnwys symud ystafell reoli'r t卯m diogelwch i'r llawr gwaelod i gefnogi amcanion yr adolygiad diogelwch diweddar, yn ogystal 芒 chreu'r ystafelloedd pwyllgora newydd a mannau aros i dystion i ddarparu ar gyfer y nifer cynyddol o bwyllgorau'r Cynulliad.

"Cost y gwaith adnewyddu oedd 拢1.84m ac er bod hyn wedi cyfrannu at gynnydd yn y costau llety a chyfleusterau yn 2016-17 o'u cymharu 芒'r flwyddyn flaenorol, talwyd amdano o'n cyllideb bresennol."

Yn 么l y Cynulliad, roedd "nodweddion cynaliadwy yn cynnwys goleuadau LED a theils a wnaed o deiars wedi'u hailgylchu" yn rhan o'r gwaith adnewyddu.

Roedd y gost flynyddol o rentu T欧 Hywel yr un fath rhwng 2015-16 a 2016-2017, sef 拢2.7m, sydd yn cael ei dalu i CBRE Limited (Gwasanaethau Asedau), a fu'n gweithredu fel asiant rheoli ers mis Mawrth 2014.