麻豆官网首页入口

Llafur Cymru i ddewis dirprwy arweinydd 'i wella cydbwysedd'

  • Cyhoeddwyd
dirprwy llafur
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd menyw yn cael ei phenodi'n ddiprwy i arweinydd Llafur yng Nghymru, Carwyn Jones

Bydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn creu r么l dirprwy arweinydd er mwyn cael "gwell cydbwysedd rhwng dynion a menywod ar frig y blaid".

Mewn cyfweliad ar raglen Sunday Supplement 麻豆官网首页入口 Radio Wales, dywedodd y Farwnes Anita Gale, y gallai'r unigolyn gael ei ddewis i'r swydd mor fuan a'r flwyddyn nesaf.

Dywedodd y byddai'r rheolau am bwy fyddai'n gymwys i sefyll, a sut y byddai'r etholiad yn cael ei gynnal, yn mynd gerbron cynhadledd Llafur Cymru fis Ebrill nesaf.

"Rhaid i un o'r t卯m arwain fod yn fenyw", dywedodd y Farwnes Gale.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Farwnes Gale yn ymgyrchydd blaengar dros fenywod mewn gwleidyddiaeth

"Felly, pan fyddwn ni'n cael etholiadau ar gyfer y dirprwy arweinydd, yng Nghymru, menyw fydd yr ymgeisydd, felly bydd gan ganddon ni fenyw yn ddirprwy arweinydd."

Ond dywedodd nad oedd y blaid trwy Brydain wedi cyrraedd yr un man eto: "Yn genedlaethol, dydyn ni ddim wedi cyrraedd y fan honno eto, a dwi'n meddwl mai i'r cyfeiriad yna y dylen ni fod yn mynd."