Jones: 'Peth ffordd i fynd' cyn cytundeb Brexit

Disgrifiad o'r fideo, Mae Carwyn Jones yn dweud na fydd ei lywodraeth yn cefnogi'r Mesur Diddymu fel y mae

Mae "peth ffordd i fynd" cyn bod Llywodraeth Cymru'n gallu cefnogi'r mesur i symud cyfreithiau'r UE i San Steffan, yn 么l Carwyn Jones.

Daw sylwadau'r prif weinidog ddydd Llun wedi ei gyfarfod gyda Damian Green, dirprwy Theresa May.

Dywedodd Mr Green bod y trafodaethau yn "adeiladol" a bod cytundeb mewn rhai meysydd rhwng y llywodraethau Cymru a'r DU.

Ond adleisiodd Mr Jones ei bryder y byddai pwerau ar faterion datganoledig yn cael eu symud o Frwsel i Lundain heb sicrwydd y byddan nhw'n symud wedyn i'r Cynulliad.

Yn 么l Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, mae "mwy o bwerau'n sicr o ddod i Gymru" wedi'r broses.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Damian Green bod cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar ambell i fater

Nod y Mesur Diddymu, fydd yn cael ei drafod gan Aelodau Seneddol ddydd Iau, yw sicrhau fod rheolau cyfredol cyfreithiau Ewropeaidd yn berthnasol i'r DU yn dilyn Brexit, wrth roi grymoedd i Lywodraeth y DU i'w newid nhw.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi dweud na fyddan nhw'n rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r mesur os nad yw'n "dychwelyd pwerau o'r UE i'r gweinyddiaethau datganoledig, fel yr addawyd."

Yn siarad wedi'r cyfarfod ddydd Llun, dywedodd Mr Jones bod y trafodaethau wedi bod "o ddefnydd" ond bod "peth ffordd i fynd yngl欧n 芒 sicrhau ein bod ni'n gallu cefnogi'r bil fel y mae".

"Ni mo'yn mynd i'r un lle, sef Brexit... a sicrwydd, yn enwedig i fusnesau", meddai.

"Ond y broblem yw maen nhw mo'yn 'neud e wrth ddweud wrthym ni beth ddyle' pobl Cymru'i wneud, yn lle cael cytundeb."

'Sut allen ni dderbyn hyn?'

Dywedodd y byddai'r mesur fel y mae yn "tynnu pwerau oddi wrth bobl Cymru".

"Mae'r bil yn sugno pwerau o Frwsel fyddai'n dod i Gymru, cadw nhw yn Llundain heb roi amserlen yngl欧n 芒 phryd byddan nhw'n dod i Gymru", meddai.

"Sut allen ni dderbyn hyn?"

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae pwerau ym maes amaeth yn un o'r materion dadleuol yn y trafodaethau am ddatganoli wedi Brexit

Mewn datganiad, dywedodd Mr Green bod y trafodaethau wedi cael eu "eu cynnal mewn ysbryd adeiladol" a'u bod yn "gam yn y cyfeiriad cywir."

"Rydyn ni'n dau'n cytuno ei bod hi'n hanfodol bwysig i amddiffyn y farchnad fewnol o fewn y DU a pheidio gwneud pethau'n anos a drytach i gwmn茂au o Gymru fasnachu ar draws y DU," meddai.

"Y cam nesaf yw trafod y meysydd hynny sydd angen delio 芒 nhw o safbwynt cyffredin i'r DU gyfan er lles busnesau a chwsmeriaid yng Nghymru ac ar draws y DU.

"Mae'n hanfodol bod y gwaith hwnnw'n cychwyn nawr."

Dywedodd Mr Cairns, oedd hefyd yn y cyfarfod, y bod "mwy o bwerau'n sicr o ddod i Gymru fel rhan o'r broses hon a bydd hynny'n ysgogiad pwysig i'n gwthio tuag at gytundeb."

'Gwneud dim i leddfu pryderon'

Fe ddywedodd Plaid Cymru bod y cyfarfod rhwng Mr Jones a Mr Green yn "gwneud dim i leddfu pryderon busnesau Cymru a'u gweithwyr".

"Mae sicrwydd yn hanfodol os ydyn ni am sicrhau economi gref a gwydn wrth i ni baratoi i adael yr UE", meddai Hywel Williams AS.

"Does dim sicrwydd o hynny os nad ydy'r prif weinidog Carwyn Jones yn ymrwymo i aros yn barhaol yn y farchnad sengl a'r undeb dollau - dim llai."