Tro pedol ar gynlluniau 'cylch haearn' Castell Y Fflint

Disgrifiad o'r llun, Roedd y cynlluniau gwreiddiol yn costio 拢395,000

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd gwaith celf dadleuol yn Y Fflint yn cael ei godi.

Y cynllun oedd creu 'cylch haearn' mawr tu allan i gastell y dref fel rhan o ymgyrch Blwyddyn y Chwedlau.

Ond roedd gwrthwynebiad chwyrn gan rai gan fod 'cylch haearn' hefyd yn cyfeirio at y cestyll gafodd eu codi gan Loegr fel rhan o'u concwest o Gymru.

Ddydd Iau fe wnaeth ysgrifennydd yr economi gydnabod bod y gwaith wedi "rhannu barn" a'i fod wedi "penderfynu peidio 芒 bwrw ymlaen 芒'r dyluniad".

Ond ychwanegodd Ken Skates y bydd y buddsoddiad ehangach i Gastell y Fflint yn parhau.