麻豆官网首页入口

Greenpeace eisiau gosod trethi ar wastraff plastig

  • Cyhoeddwyd
PoteliFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r gr诺p ymgyrchu amgylcheddol Greenpeace wedi galw ar weinidogion Cymru i ystyried gosod trethi ar wastraff plastig.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru ofyn am syniadau allai gael eu datblygu yn ardollau newydd.

Yn 么l Greenpeace, gallai pwerau newydd gael eu defnyddio er mwyn gosod trethi ar gwpanau coffi newydd neu eitemau plastig sydd methu cael eu hailgylchu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd rhestr fer o'r trethi newydd posib yn cael ei gyhoeddi ar 3 Hydref.

'Problem llygredd'

Mae'r llywodraeth wedi dweud yn barod y byddan nhw yn gwahardd peli bach plastig mewn cynnyrch harddwch.

Yn 么l Greenpeace mae 7,500 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio eu pwerau trethi i "ddelio gyda phroblem llygredd plastig".

Mae Deddf Cymru 2014 yn golygu ei bod hi'n bosib i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynlluniau ar gyfer datblygu trethi newydd mewn meysydd polisi sydd yn cael eu rheoli o Gymru.

Ond mae'n rhaid i ACau, ASau, Llywodraeth y DU, T欧'r Cyffredin a Th欧'r Arglwyddi gytuno.

Dywedodd Tisha Brown, ymgyrchydd moroedd Greenpeace UK: "Roedd Cymru ar flaen y gad gyda thalu am fagiau plastig ac fe fydden ni wrth ein boddau pe bydden nhw yn gwneud yr un peth wrth daclo llygredd plastig mewn moroedd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Greenpeace yn galw am ystyriaeth i roi treth ar gwpanau papur

Mae'r ddeiseb yn galw am gyflwyno system lle y byddai pobl yn cael arian yn 么l am ailgylchu poteli plastig a gweithredu er mwyn taclo deunyddiau plastig fel polystyren sydd ddim yn gallu cael ei ailgylchu.

Maent hefyd eisiau gweld y llywodraeth yn taclo'r broblem o gwpanau coffi sydd yn cael eu taflu.

Dyw cwpanau coffi sydd gyda pholyethylen ddim yn gallu cael eu hailgylchu yn hawdd.

'Cynnydd cyson'

Ym mis Ebrill fe ddywedodd y Gymdeithas Gadwraethol Forol fod ffigyrau yn dangos bod "cynnydd cyson" wedi bod yn nifer y poteli gwydr a chaeadau oedd wedi eu darganfod ar draethau Cymru yn y pum mlynedd ddiwethaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n gweithio gydag arbenigwyr i ddatblygu cynigion trethi newydd ac y bydd y rhain yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU flwyddyn nesaf.

Mae'r llefarydd hefyd yn dweud bod cyfradd ailgylchu Cymru "nawr y trydydd gorau yn y byd" ond eu bod eisiau parhau gyda'r cynnydd yma a lleihau gwastraff.

"Mae hyn yn cynnwys adolygu'r potensial o gyflwyno System Dychwelyd Ernes yng Nghymru," meddai.